Dim ond yn arwynebol y maent wedi iacháu briw fy mhobl,
gan ddweud, ‘Heddwch! Heddwch!’—ac nid oes heddwch.
A oes arnynt gywilydd pan wnânt ffieidd-dra?
Dim cywilydd o gwbl, ac ni allant wrido.
Am hynny fe syrthiant gyda'r syrthiedig;
yn nydd eu cosbi fe gwympant,” medd yr ARGLWYDD.
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: “Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys.” Ond dywedasant, “Ni rodiwn ni ddim ynddi.” “Gosodaf wylwyr drosoch,” meddai, “gwrandewch ar sain yr utgorn.” Ond dywedasant, “Ni wrandawn ni ddim.” “Am hynny clywch, genhedloedd, a gwybydd, gynulliad, beth a ddigwydd iddynt. Clyw, wlad, rwyf am ddwyn drwg ar y bobl hyn, ffrwyth eu bwriadau hwy eu hunain. Ni wrandawsant ar fy ngeiriau, a gwrthodasant fy nghyfraith. Pam y cludir i mi thus o Sheba, a chorsen bêr o wlad bell? Nid oes pleser i mi yn eich poethoffrwm, na boddhad yn eich aberth.”
Am hynny fe ddywed yr ARGLWYDD,
“Rwyf am osod i'r bobl hyn feini tramgwydd a'u dwg i lawr;
tadau a phlant ynghyd, cymydog a chyfaill, fe'u difethir.”
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:
“Wele, y mae pobl yn dod o dir y gogledd;
cenedl gref yn ymysgwyd o bellafoedd y ddaear.
Gafaelant mewn bwa a gwaywffon, y maent yn greulon a didostur;
y mae eu twrf fel y môr yn rhuo, marchogant feirch,
a dod yn rhengoedd, fel gwŷr yn mynd i ryfela, yn dy erbyn di, ferch Seion.”
Clywsom y newydd amdanynt, a llaesodd ein dwylo;
daliwyd ni gan ddychryn, gwewyr fel gwraig yn esgor.
Paid â mynd allan i'r maes, na rhodio ar y ffordd,
oherwydd y mae gan y gelyn gleddyf, ac y mae dychryn ar bob llaw.
Merch fy mhobl, gwisga sachliain, ymdreigla yn y lludw;
gwna alarnad fel am unig blentyn, galarnad chwerw;
oherwydd yn ddisymwth y daw'r distrywiwr arnom.
“Gosodais di yn safonwr ac yn brofwr ymhlith fy mhobl,
i wybod ac i brofi eu ffyrdd.