Job 31
31
1“Gwneuthum gytundeb â'm llygaid
i beidio â llygadu merch.
2Beth yw fy nhynged gan Dduw oddi uchod,
a'm cyfran gan yr Hollalluog o'r uchelder?
3Oni ddaw dinistr ar y twyllodrus,
ac aflwydd i'r drygionus?
4Onid yw ef yn sylwi ar fy ffyrdd,
ac yn cyfrif fy nghamau?
5“A euthum ar ôl oferedd,
a phrysuro fy ngherddediad i dwyllo?
6Pwyser fi mewn cloriannau cywir
i Dduw gael gweld fy nghywirdeb.
7Os gwyrodd fy ngham oddi ar y ffordd,
a'm calon yn dilyn fy llygaid,
neu os glynodd unrhyw aflendid wrth fy nwylo,
8yna caiff arall fwyta'r hyn a heuais,
a diwreiddir yr hyn a blennais.
9“Os denwyd fy nghalon gan ddynes,
ac os bûm yn llercian wrth ddrws fy nghymydog,
10yna caiff fy ngwraig innau falu blawd i arall,
a chaiff dieithryn orwedd gyda hi.
11Oherwydd byddai hynny'n anllad,
ac yn drosedd i'r barnwyr;
12byddai fel tân yn difa'n llwyr,
ac yn dinistrio fy holl gynnyrch.
13“Os diystyrais achos fy ngwas neu fy morwyn
pan oedd ganddynt gŵyn yn fy erbyn,
14beth a wnaf pan gyfyd Duw?
Beth a atebaf pan ddaw i'm cyhuddo?
15Onid ef a'n gwnaeth ni'n dau yn y groth,
a'n creu yn y bru?
16“Os rhwystrais y tlawd rhag cael ei ddymuniad,
neu siomi disgwyliad y weddw;
17os bwyteais fy mwyd ar fy mhen fy hun,
a gwrthod ei rannu â'r amddifad—
18yn wir bûm fel tad yn ei fagu o'i#31:18 Hebraeg, o'm. ieuenctid,
ac yn ei arwain o adeg ei eni—
19os gwelais grwydryn heb ddillad,
neu dlotyn heb wisg,
20a'i lwynau heb fy mendithio
am na chynheswyd ef gan gnu fy ŵyn;
21os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad
am fy mod yn gweld cefnogaeth imi yn y porth;
22yna disgynned f'ysgwydd o'i lle,
a thorrer fy mraich o'i chyswllt.
23Yn wir y mae ofn dinistr Duw arnaf,
ac ni allaf wynebu ei fawredd.
24“Os rhoddais fy hyder ar aur,
a meddwl am ddiogelwch mewn aur coeth;
25os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr,
a bod cymaint yn fy meddiant;
26os edrychais ar yr haul yn tywynnu,
a'r lleuad tra parhâi'n ddisglair,
27ac os cafodd fy nghalon ei hudo'n ddirgel,
a chusanu fy llaw mewn gwrogaeth;
28byddai hyn hefyd yn drosedd i'm barnwr,
oherwydd imi wadu Duw uchod.
29“A lawenychais am drychineb fy ngelyn,
ac ymffrostio pan ddaeth drwg arno?
30Ni adewais i'm tafod bechu
trwy osod ei einioes dan felltith.
31Oni ddywedodd y dynion yn fy mhabell,
‘Pwy sydd na ddigonwyd ganddo â bwyd?’?
32Ni chafodd y dieithryn gysgu allan;
agorais fy nrws i'r crwydryn.
33A guddiais fy nhroseddau fel y gwna eraill,
trwy gadw fy nghamwedd yn fy mynwes,
34am fy mod yn ofni'r dyrfa,
a bod dirmyg cymdeithas yn fy nychryn,
a minnau'n cadw'n dawel heb fynd allan?
35O na fyddai rhywun yn gwrando arnaf!
Deuthum i'r terfyn; caiff yr Hollalluog yn awr fy ateb,
a chaiff fy ngwrthwynebwr ysgrifennu'r wŷs.
36Yn wir dygaf hi ar f'ysgwyddau,
a'i gwisgo fel coron ar fy mhen.
37Rhof gyfrif iddo o'm camau,
a nesáu ato fel tywysog.
38Os gwaeddodd fy nhir yn f'erbyn,
a'i gwysi i gyd yn wylo;
39os bwyteais ei gynnyrch heb dalu amdano,
ac ennyn atgasedd ei berchenogion;
40yna tyfed mieri yn lle gwenith,
a chwyn yn lle haidd.”
Dyma derfyn geiriau Job.
Dewis Presennol:
Job 31: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004