Job 8
8
1Yna atebodd Bildad y Suhiad:
2“Am ba hyd y lleferi fel hyn,
a chymaint o ymffrost yn dy eiriau?
3A yw Duw yn gwyrdroi barn?
A yw'r Hollalluog yn gwyro cyfiawnder?
4Pan bechodd dy feibion yn ei erbyn,
fe'u trosglwyddodd i afael eu trosedd.
5Os ceisi di Dduw yn ddyfal,
ac ymbil ar yr Hollalluog,
6ac os wyt yn bur ac uniawn,
yna fe wylia ef drosot,
a'th adfer i'th safle o gyfiawnder.
7Pe byddai dy ddechreuad yn fychan,
byddai dy ddiwedd yn fawr.
8“Yn awr gofyn i'r oes a fu,
ac ystyria'r hyn a ganfu'r hynafiaid.
9Canys nid ydym ni ond er doe, ac anwybodus ŷm,
a chysgod yw ein dyddiau ar y ddaear.
10Oni fyddant hwy'n dy hyfforddi, a mynegi wrthyt,
a rhoi atebion deallus?
11A dyf brwyn lle nad oes cors?
A ffynna hesg heb ddŵr?
12Er eu bod yn ir a heb eu torri,
eto gwywant yn gynt na'r holl blanhigion.
13Felly y mae tynged#8:13 Felly Groeg. Hebraeg, llwybrau. yr holl rai sy'n anghofio Duw,
ac y derfydd gobaith yr annuwiol.
14Edau frau yw ei hyder,
a'i ymffrost fel gwe'r pryf copyn.
15Pwysa ar ei dŷ, ond ni saif;
cydia ynddo, ond ni ddeil.
16Bydd yn ir yn llygad yr haul,
yn estyn ei frigau dros yr ardd;
17ymbletha'i wraidd dros y pentwr cerrig,
a daw i'r golwg rhwng y meini.
18Ond os diwreiddir ef o'i le,
fe'i gwedir: ‘Ni welais di’.
19Gwywo felly yw ei natur;
ac yna tyf un arall o'r pridd.
20“Wele, ni wrthyd Duw yr uniawn,
ac ni chydia yn llaw y drygionus.
21Lleinw eto dy enau â chwerthin,
a'th wefusau â gorfoledd.
22Gwisgir dy elynion â gwarth,
a diflanna pabell y drygionus.”
Dewis Presennol:
Job 8: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004