Yr oedd ef yn gweddïo mewn rhyw fan, ac wedi iddo orffen dywedodd un o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, dysg i ni weddïo, fel y dysgodd Ioan yntau i'w ddisgyblion ef.” Ac meddai wrthynt, “Pan weddïwch, dywedwch:
“ ‘Dad, sancteiddier dy enw;
deled dy deyrnas;
dyro inni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol;
a maddau inni ein pechodau,
oherwydd yr ydym ninnau yn maddau i bob un sy'n troseddu yn ein herbyn;
a phaid â'n dwyn i brawf.’ ”
Yna meddai wrthynt, “Pe bai un ohonoch yn mynd at gyfaill ganol nos ac yn dweud wrtho, ‘Gyfaill, rho fenthyg tair torth imi, oherwydd y mae cyfaill imi wedi cyrraedd acw ar ôl taith, ac nid oes gennyf ddim i'w osod o'i flaen’; a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’, rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau. Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi. Oherwydd y mae pawb sy'n gofyn yn derbyn, a'r sawl sy'n ceisio yn cael, ac i'r un sy'n curo agorir y drws. Os bydd mab un ohonoch yn gofyn i'w dad am bysgodyn, a rydd ef iddo sarff yn lle pysgodyn? Neu os bydd yn gofyn am wy, a rydd ef iddo ysgorpion? Am hynny, os ydych chwi, sy'n ddrwg, yn medru rhoi rhoddion da i'ch plant, gymaint mwy y rhydd y Tad nefol yr Ysbryd Glân i'r rhai sy'n gofyn ganddo.”