Pan ddychwelodd Iesu croesawyd ef gan y dyrfa, oherwydd yr oedd pawb yn disgwyl amdano. A dyma ddyn o'r enw Jairus yn dod, ac yr oedd ef yn arweinydd yn y synagog; syrthiodd hwn wrth draed Iesu ac ymbil arno i ddod i'w gartref, am fod ganddo unig ferch, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a'i bod hi'n marw.
Tra oedd ef ar ei ffordd yr oedd y tyrfaoedd yn gwasgu arno. Yr oedd yno wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd. Er iddi wario ar feddygon y cwbl oedd ganddi i fyw arno, nid oedd wedi llwyddo i gael gwellhad gan neb. Daeth hon ato o'r tu ôl a chyffwrdd ag ymyl ei fantell; ar unwaith peidiodd llif ei gwaed hi. Ac meddai Iesu, “Pwy gyffyrddodd â mi?” Gwadodd pawb, ac meddai Pedr, “Meistr, y tyrfaoedd sy'n pwyso ac yn gwasgu arnat.” Ond meddai Iesu, “Fe gyffyrddodd rhywun â mi, oherwydd fe synhwyrais i fod nerth wedi mynd allan ohonof.” Pan ganfu'r wraig nad oedd hi ddim wedi osgoi sylw, daeth ymlaen dan grynu; syrthiodd wrth ei draed a mynegi gerbron yr holl bobl pam yr oedd hi wedi cyffwrdd ag ef, a sut yr oedd wedi gwella ar unwaith. Ac meddai ef wrthi, “Fy merch, dy ffydd sydd wedi dy iacháu di; dos mewn tangnefedd.”
Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywun o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; paid â phoeni'r Athro bellach.” Ond clywodd Iesu, ac meddai wrtho, “Paid ag ofni; dim ond credu, ac fe'i hachubir.” Pan gyrhaeddodd y tŷ, ni adawodd i neb fynd i mewn gydag ef ond Pedr ac Ioan ac Iago, ynghyd â thad y ferch a'i mam. Yr oedd pawb yn wylo ac yn galaru drosti. Ond meddai ef, “Peidiwch ag wylo; nid yw hi wedi marw, cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben, am eu bod yn sicr ei bod wedi marw. Gafaelodd ef yn ei llaw a dweud yn uchel, “Fy ngeneth, cod.” Yna dychwelodd ei hysbryd, a chododd ar unwaith. Gorchmynnodd ef roi iddi rywbeth i'w fwyta. Syfrdanwyd ei rhieni, ond rhybuddiodd ef hwy i beidio â sôn gair wrth neb am yr hyn oedd wedi digwydd.