Mathew 22
22
Dameg y Wledd Briodas
Lc. 14:15–24
1A llefarodd Iesu drachefn wrthynt ar ddamhegion. 2“Y mae teyrnas nefoedd,” meddai, “yn debyg i frenin a drefnodd wledd briodas i'w fab. 3Anfonodd ei weision i alw'r gwahoddedigion i'r neithior, ond nid oeddent am ddod. 4Anfonodd eilwaith weision eraill gan ddweud, ‘Dywedwch wrth y gwahoddedigion, “Dyma fi wedi paratoi fy ngwledd, y mae fy mustych a'm llydnod pasgedig wedi eu lladd, a phopeth yn barod; dewch i'r neithior.” ’ 5Ond ni chymerodd y gwahoddedigion sylw, ac aethant ymaith, un i'w faes, ac un arall i'w fasnach. 6A gafaelodd y lleill yn ei weision a'u cam-drin yn warthus a'u lladd. 7Digiodd y brenin, ac anfonodd ei filwyr i ddifetha'r llofruddion hynny a llosgi eu tref. 8Yna meddai wrth ei weision, ‘Y mae'r wledd briodas yn barod, ond nid oedd y gwahoddedigion yn deilwng. 9Ewch felly i bennau'r strydoedd, a gwahoddwch bwy bynnag a gewch yno i'r wledd briodas.’ 10Ac fe aeth y gweision hynny allan i'r ffyrdd a chasglu ynghyd bawb a gawsant yno, yn ddrwg a da. A llanwyd neuadd y wledd briodas gan westeion. 11Aeth y brenin i mewn i gael golwg ar y gwesteion, a gwelodd yno ddyn heb wisg briodas amdano. 12Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud. 13Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, ‘Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.’ 14Y mae llawer, yn wir, wedi eu gwahodd, ond ychydig wedi eu hethol.”
Talu Trethi i Gesar
Mc. 12:13–17; Lc. 20:20–26
15Yna fe aeth y Phariseaid a chynllwynio sut i'w rwydo ar air. 16A dyma hwy'n anfon eu disgyblion ato gyda'r Herodianiaid i ddweud, “Athro, gwyddom dy fod yn gwbl eirwir, ac yn dysgu ffordd Duw yn unol â'r gwirionedd; ni waeth gennyt am neb, ac yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb. 17Dywed wrthym, felly, beth yw dy farn: a yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw?” 18Deallodd Iesu eu dichell a dywedodd, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf, ragrithwyr? 19Dangoswch i mi ddarn arian y dreth.” Daethant â darn arian#22:19 Gw. nodyn ar Mth. 18:28. iddo, 20ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” 21Dywedasant wrtho, “Cesar.” Yna meddai ef wrthynt, “Talwch felly bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” 22Pan glywsant hyn rhyfeddasant, a gadawsant ef a mynd ymaith.
Holi ynglŷn â'r Atgyfodiad
Mc. 12:18–27; Lc. 20:27–40
23Yr un diwrnod daeth ato Sadwceaid yn dweud nad oes dim atgyfodiad. 24Gofynasant iddo, “Athro, dywedodd Moses, ‘Os bydd rhywun farw heb blant ganddo, y mae ei frawd i briodi'r wraig ac i godi plant i'w frawd.’ 25Yr oedd saith o frodyr yn ein plith; priododd y cyntaf, a bu farw, a chan nad oedd plant ganddo gadawodd ei wraig i'w frawd. 26A'r un modd yr ail a'r trydydd, hyd at y seithfed. 27Yn olaf oll bu farw'r wraig. 28Yn yr atgyfodiad, felly, gwraig p'run o'r saith fydd hi? Oherwydd cafodd pob un hi'n wraig.” 29Atebodd Iesu hwy, “Yr ydych yn cyfeiliorni am nad ydych yn deall na'r Ysgrythurau na gallu Duw. 30Oherwydd yn yr atgyfodiad ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nef. 31Ond ynglŷn ag atgyfodiad y meirw, onid ydych wedi darllen y gair a lefarwyd wrthych gan Dduw, 32‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’? Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw.” 33A phan glywodd y tyrfaoedd yr oeddent yn synnu at yr hyn yr oedd yn ei ddysgu.
Y Gorchymyn Mawr
Mc. 12:28–34; Lc. 10:25–38
34Clywodd y Phariseaid iddo roi taw ar y Sadwceaid, a daethant at ei gilydd. 35Ac i roi prawf arno, gofynnodd un ohonynt, ac yntau'n athro'r Gyfraith, 36“Athro, pa orchymyn yw'r mwyaf yn y Gyfraith?” 37Dywedodd Iesu wrtho, “ ‘Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl.’ 38Dyma'r gorchymyn cyntaf a'r pwysicaf. 39Ac y mae'r ail yn debyg iddo: ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ 40Ar y ddau orchymyn hyn y mae'r holl Gyfraith a'r proffwydi yn dibynnu.”
Holi ynglŷn â Mab Dafydd
Mc. 12:35–37; Lc. 20:41–44
41Yr oedd y Phariseaid wedi ymgynnull, a gofynnodd Iesu iddynt, 42“Beth yw eich barn chwi ynglŷn â'r Meseia? Mab pwy ydyw?” “Mab Dafydd,” meddent wrtho. 43“Sut felly,” gofynnodd Iesu, “y mae Dafydd trwy'r Ysbryd yn ei alw'n Arglwydd, pan ddywed:
44“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,
“Eistedd ar fy neheulaw
nes imi osod dy elynion dan dy draed” ’?
45“Os yw Dafydd felly yn ei alw'n Arglwydd, sut y mae'n fab iddo?” 46Ac nid oedd neb yn gallu ateb gair iddo, ac o'r diwrnod hwnnw ni feiddiodd neb ei holi ddim mwy.
Dewis Presennol:
Mathew 22: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004