Paid â llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn;
er imi syrthio, fe godaf.
Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch,
bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi.
Dygaf ddig yr ARGLWYDD—oherwydd pechais yn ei erbyn—
nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid,
nes iddo fy nwyn allan i oleuni,
ac imi weld ei gyfiawnder.
Yna fe wêl fy ngelyn a chywilyddio—
yr un a ddywedodd wrthyf, “Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?”
Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno,
pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd.
Bydd yn ddydd adeiladu dy furiau,
yn ddydd ehangu terfynau,
yn ddydd pan ddônt atat o Asyria hyd yr Aifft,
ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates,
o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd.
Ond bydd y ddaear yn ddiffaith,
oherwydd ei thrigolion;
dyma ffrwyth eu gweithredoedd.
ARGLWYDD
Bugeilia dy bobl â'th ffon,
y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti,
sy'n trigo ar wahân mewn coedwig yng nghanol Carmel;
porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt.
Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft,
fe ddangosaf iddynt ryfeddodau.
Fe wêl y cenhedloedd, a chywilyddio
er eu holl rym;
rhônt eu dwylo ar eu genau
a bydd eu clustiau'n fyddar;
llyfant y llwch fel neidr,
fel ymlusgiaid y ddaear;
dônt yn grynedig allan o'u llochesau,
a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw,
ac ofnant di.
Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd,
ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth?
Nid yw'n dal ei ddig am byth,
ond ymhyfryda mewn trugaredd.
Bydd yn tosturio wrthym eto,
ac yn golchi ein camweddau,
ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr.
Byddi'n ffyddlon i Jacob
ac yn deyrngar i Abraham,
fel y tyngaist i'n tadau
yn y dyddiau gynt.