Micha 7:8-20
Micha 7:8-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Peidiwch dathlu’n rhy fuan, elynion! Er fy mod wedi syrthio, bydda i’n codi eto. Er bod pethau’n dywyll ar hyn o bryd, bydd yr ARGLWYDD yn olau i mi. Rhaid i mi oddef cosb yr ARGLWYDD am fy mod wedi pechu yn ei erbyn. Ond yna bydd e’n ochri gyda mi ac yn ennill yr achos ar fy rhan. Bydd yn fy arwain i allan i’r golau; bydda i’n cael fy achub ganddo. Bydd fy ngelynion yn gweld hyn, a byddan nhw’n profi siom ac embaras. Fi fydd yn dathlu, wrth eu gweld nhw, y rhai oedd yn dweud, ‘Ble mae dy Dduw di?’, yn cael eu sathru fel baw ar y strydoedd.” Y fath ddiwrnod fydd hwnnw! – diwrnod i ailadeiladu dy waliau; diwrnod i ehangu dy ffiniau! Diwrnod pan fydd pobl yn dod atat yr holl ffordd o Asyria i drefi’r Aifft, o’r Aifft i afon Ewffrates, o un arfordir i’r llall, ac o’r mynyddoedd pellaf. Ond bydd gweddill y ddaear yn ddiffaith, o achos y ffordd mae pobl wedi byw. ARGLWYDD, tyrd i fugeilio dy bobl, dy braidd arbennig dy hun; y rhai sy’n byw’n unig mewn tir llawn drysni tra mae porfa fras o’u cwmpas. Gad iddyn nhw bori ar gaeau Bashan a Gilead, fel roedden nhw’n gwneud ers talwm. Gad iddyn nhw weld dy wyrthiau, fel yr adeg pan aethon nhw allan o wlad yr Aifft! Bydd y gwledydd yn gweld hyn, a bydd eu grym yn troi’n gywilydd. Byddan nhw’n sefyll yn syn, ac fel petaen nhw’n clywed dim! Byddan nhw’n llyfu’r llwch fel nadroedd neu bryfed yn llusgo ar y llawr. Byddan nhw’n ofni am eu bywydau, ac yn crynu wrth ddod allan o’u cuddfannau i dy wynebu di, yr ARGLWYDD ein Duw. Oes duw tebyg i ti? – Na! Ti’n maddau pechod ac yn anghofio gwrthryfel y rhai sydd ar ôl o dy bobl. Ti ddim yn digio am byth; ti wrth dy fodd yn bod yn garedig a hael. Byddi’n tosturio wrthon ni eto. Byddi’n delio gyda’n drygioni, ac yn taflu’n pechodau i waelod y môr. Byddi’n ffyddlon i bobl Jacob ac yn dangos dy drugaredd i blant Abraham – fel gwnest ti addo i’n hynafiaid amser maith yn ôl.
Micha 7:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Paid â llawenychu yn f'erbyn, fy ngelyn; er imi syrthio, fe godaf. Er fy mod yn trigo mewn tywyllwch, bydd yr ARGLWYDD yn oleuni i mi. Dygaf ddig yr ARGLWYDD—oherwydd pechais yn ei erbyn— nes iddo ddadlau f'achos a rhoi dedfryd o'm plaid, nes iddo fy nwyn allan i oleuni, ac imi weld ei gyfiawnder. Yna fe wêl fy ngelyn a chywilyddio— yr un a ddywedodd wrthyf, “Ble mae'r ARGLWYDD dy Dduw?” Yna bydd fy llygaid yn gloddesta arno, pan sethrir ef fel baw ar yr heolydd. Bydd yn ddydd adeiladu dy furiau, yn ddydd ehangu terfynau, yn ddydd pan ddônt atat o Asyria hyd yr Aifft, ac o'r Aifft hyd afon Ewffrates, o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. Ond bydd y ddaear yn ddiffaith, oherwydd ei thrigolion; dyma ffrwyth eu gweithredoedd. ARGLWYDD Bugeilia dy bobl â'th ffon, y ddiadell sy'n etifeddiaeth iti, sy'n trigo ar wahân mewn coedwig yng nghanol Carmel; porant Basan a Gilead fel yn y dyddiau gynt. Fel yn y dyddiau pan ddaethost allan o'r Aifft, fe ddangosaf iddynt ryfeddodau. Fe wêl y cenhedloedd, a chywilyddio er eu holl rym; rhônt eu dwylo ar eu genau a bydd eu clustiau'n fyddar; llyfant y llwch fel neidr, fel ymlusgiaid y ddaear; dônt yn grynedig allan o'u llochesau, a throi mewn dychryn at yr ARGLWYDD ein Duw, ac ofnant di. Pwy sydd Dduw fel ti, yn maddau camwedd, ac yn mynd heibio i drosedd gweddill ei etifeddiaeth? Nid yw'n dal ei ddig am byth, ond ymhyfryda mewn trugaredd. Bydd yn tosturio wrthym eto, ac yn golchi ein camweddau, ac yn taflu ein holl bechodau i eigion y môr. Byddi'n ffyddlon i Jacob ac yn deyrngar i Abraham, fel y tyngaist i'n tadau yn y dyddiau gynt.
Micha 7:8-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Na lawenycha i’m herbyn, fy ngelynes: pan syrthiwyf, cyfodaf; pan eisteddwyf mewn tywyllwch, yr ARGLWYDD a lewyrcha i mi. Dioddefaf ddig yr ARGLWYDD, canys pechais i’w erbyn; hyd oni ddadleuo fy nghwyn, a gwneuthur i mi farn: efe a’m dwg allan i’r goleuad, a mi a welaf ei gyfiawnder ef. A’m gelynes a gaiff weled, a chywilydd a’i gorchuddia hi, yr hon a ddywedodd wrthyf, Mae yr ARGLWYDD dy DDUW? fy llygaid a’i gwelant hi; bellach y bydd hi yn sathrfa, megis tom yr heolydd. Y dydd yr adeiledir dy furiau, y dydd hwnnw yr ymbellha y ddeddf. Y dydd hwnnw y daw efe hyd atat o Asyria, ac o’r dinasoedd cedyrn, ac o’r cadernid hyd yr afon, ac o fôr i fôr, ac o fynydd i fynydd. Eto y wlad a fydd yn anrhaith o achos ei thrigolion, am ffrwyth eu gweithredoedd. Portha dy bobl â’th wialen, defaid dy etifeddiaeth, y rhai sydd yn trigo yn y coed yn unig, yng nghanol Carmel: porant yn Basan a Gilead, megis yn y dyddiau gynt. Megis y dyddiau y daethost allan o dir yr Aifft, y dangosaf iddo ryfeddodau. Y cenhedloedd a welant, ac a gywilyddiant gan eu holl gryfder hwynt: rhoddant eu llaw ar eu genau; eu clustiau a fyddarant. Llyfant y llwch fel sarff; fel pryfed y ddaear y symudant o’u llochesau: arswydant rhag yr ARGLWYDD ein DUW ni, ac o’th achos di yr ofnant. Pa DDUW sydd fel tydi, yn maddau anwiredd, ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth? ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y môr. Ti a gyflewni y gwirionedd i Jacob, y drugaredd hefyd i Abraham, yr hwn a dyngaist i’n tadau er y dyddiau gynt.