Numeri 13
13
Yr Ysbiwyr
Deut. 1:19–33
1Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 2“Anfon ddynion i ysbïo Canaan, y wlad yr wyf yn ei rhoi i bobl Israel; yr wyt i anfon pennaeth o bob un o lwythau eu hynafiaid.” 3Felly, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD, anfonodd Moses hwy allan o anialwch Paran, pob un ohonynt yn flaenllaw ymhlith pobl Israel. 4Dyma eu henwau: o lwyth Reuben: Sammua fab Saccur; 5o lwyth Simeon: Saffat fab Hori; 6o lwyth Jwda: Caleb fab Jeffunne; 7o lwyth Issachar: Igal fab Joseff; 8o lwyth Effraim: Hosea fab Nun; 9o lwyth Benjamin: Palti fab Raffu; 10o lwyth Sabulon: Gadiel fab Sodi; 11o lwyth Joseff, sef o lwyth Manasse: Gadi fab Susi; 12o lwyth Dan: Ammiel fab Gemali; 13o lwyth Aser: Sethur fab Michael; 14o lwyth Nafftali: Nahbi fab Foffsi; 15o lwyth Gad: Geuel fab Maci. 16Dyna enwau'r dynion a anfonodd Moses i ysbïo'r wlad. Rhoddodd Moses yr enw Josua i Hosea fab Nun.
17Wrth i Moses eu hanfon i ysbïo gwlad Canaan, dywedodd wrthynt, “Ewch i fyny trwy'r Negef i'r mynydd-dir, 18ac edrychwch pa fath wlad yw hi: p'run ai cryf ynteu gwan, ychydig ynteu niferus yw'r bobl sy'n byw ynddi; 19p'run ai da ynteu drwg yw'r tir lle y maent yn byw; p'run ai gwersylloedd ynteu amddiffynfeydd yw eu dinasoedd; 20p'run ai ffrwythlon ynteu llwm yw'r wlad; ac a oes coed ynddi ai peidio. Byddwch ddewr, a chymerwch beth o gynnyrch y tir.” Adeg blaenffrwyth y grawnwin aeddfed oedd hi.
21Felly, aethant i fyny i ysbïo'r wlad o anialwch Sin hyd Rehob, ger Lebo-hamath. 22Aethant i fyny trwy'r Negef a chyrraedd Hebron; yno yr oedd Ahiman, Sesai a Talmai, disgynyddion Anac. (Adeiladwyd Hebron saith mlynedd cyn Soan yn yr Aifft.) 23Pan ddaethant i ddyffryn Escol, torasant gangen ac arni glwstwr o rawnwin, ac yr oedd dau yn ei chario ar drosol; daethant hefyd â phomgranadau a ffigys. 24Galwyd y lle yn ddyffryn Escol#13:24 H.y., Clwstwr. oherwydd y clwstwr o rawnwin a dorrodd yr Israeliaid yno.
25Ar ôl ysbïo'r wlad am ddeugain diwrnod, daethant yn ôl 26i Cades yn anialwch Paran at Moses, Aaron a holl gynulliad pobl Israel. Adroddasant y newyddion wrthynt hwy a'r holl gynulliad, a dangos iddynt ffrwyth y tir. 27Dywedasant wrth Moses, “Daethom i'r wlad yr anfonaist ni iddi, a'i chael yn llifeirio o laeth a mêl, a dyma beth o'i ffrwyth. 28Ond y mae'r bobl sy'n byw yn y wlad yn gryf; y mae'r dinasoedd yn gaerog ac yn fawr iawn, a gwelsom yno ddisgynyddion Anac. 29Y mae'r Amaleciaid yn byw yng ngwlad y Negef; yr Hethiaid, y Jebusiaid a'r Amoriaid yn byw yn y mynydd-dir; a'r Canaaneaid wrth y môr, a gerllaw'r Iorddonen.”
30Yna galwodd Caleb ar i'r bobl dawelu o flaen Moses, a dywedodd, “Gadewch inni fynd i fyny ar unwaith i feddiannu'r wlad, oherwydd yr ydym yn sicr o fedru ei gorchfygu.” 31Ond dywedodd y dynion oedd wedi mynd gydag ef, “Ni allwn fynd i fyny yn erbyn y bobl, oherwydd y maent yn gryfach na ni.” 32Felly rhoesant adroddiad gwael i'r Israeliaid am y wlad yr oeddent wedi ei hysbïo, a dweud, “Y mae'r wlad yr aethom drwyddi i'w hysbïo yn difa ei thrigolion, ac y mae'r holl bobl a welsom ynddi yn anferth. 33Gwelsom yno y Neffilim (y mae meibion Anac yn ddisgynyddion y Neffilim); nid oeddem yn ein gweld ein hunain yn ddim mwy na cheiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn ymddangos iddynt hwythau.”
Dewis Presennol:
Numeri 13: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004