Numeri 26
26
Yr Ail Gyfrifiad
1Ar ôl y pla dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Eleasar fab Aaron yr offeiriad, 2“Gwnewch gyfrifiad o holl gynulliad pobl Israel yn ôl eu tylwythau, gan restru pawb yn Israel sy'n ugain oed a throsodd, ac yn abl i fynd i ryfel.” 3Felly dywedodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrth y bobl yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen, 4am restru'r#26:4 Cymh. 26:2. Hebraeg heb am restru'r. rhai oedd yn ugain oed a throsodd, fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses. Dyma'r Israeliaid a ddaeth allan o wlad yr Aifft: 5Reuben, cyntafanedig Israel; meibion Reuben: o Hanoch, teulu'r Hanochiaid; o Palu, teulu'r Paluiaid; 6o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Carmi, teulu'r Carmiaid. 7Dyma gyfanswm teuluoedd y Reubeniaid: pedwar deg tair o filoedd, saith gant a thri deg. 8Mab#26:8 Hebraeg, Meibion. Palu: Eliab. 9Meibion Eliab: Nemuel, Dathan ac Abiram. Dyma'r Dathan a'r Abiram a anogodd y cynulliad i ymuno â chwmni Cora i gwyno yn erbyn Moses ac Aaron, ac yn erbyn yr ARGLWYDD; 10agorodd y ddaear ei genau a'u llyncu hwy a Cora, a bu farw'r cwmni pan losgwyd dau gant a hanner ohonynt mewn tân, fel rhybudd. 11Er hyn, ni fu farw meibion Cora.
12Meibion Simeon yn ôl eu teuluoedd: o Nemuel, teulu'r Nemueliaid; o Jamin, teulu'r Jaminiaid; o Jachin, teulu'r Jachiniaid; 13o Sera, teulu'r Serahiaid; o Saul, teulu'r Sauliaid. 14Dyma deuluoedd y Simeoniaid, dau ddeg dwy o filoedd a dau gant.
15Meibion Gad yn ôl eu teuluoedd: o Seffon, teulu'r Seffoniaid; o Haggi, teulu'r Haggiaid; o Suni, teulu'r Suniaid; 16o Osni, teulu'r Osniaid; o Eri, teulu'r Eriaid; 17o Arod, teulu'r Arodiaid; o Areli, teulu'r Areliaid. 18Dyma deuluoedd meibion Gad, cyfanswm o ddeugain mil a phum cant.
19Meibion Jwda: Er ac Onan; bu farw Er ac Onan yng ngwlad Canaan. 20Meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid. 21Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid. 22Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.
23Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid; 24o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid. 25Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.
26Meibion Sabulon yn ôl eu teuluoedd: o Sered, teulu'r Sardiaid; o Elon, teulu'r Eloniaid; o Jahleel, teulu'r Jahleeliaid. 27Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, cyfanswm o drigain mil a phum cant.
28Meibion Joseff, sef Manasse ac Effraim, yn ôl eu teuluoedd: 29Meibion Manasse: o Machir, teulu'r Machiriaid; yr oedd Machir yn dad i Gilead; o Gilead, teulu'r Gileadiaid. 30Dyma feibion Gilead: o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Helec, teulu'r Heleciaid; 31o Asriel, teulu'r Asrieliaid; o Sechem, teulu'r Sechemiaid; 32o Semida, teulu'r Semidiaid; o Heffer, teulu'r Hefferiaid. 33Nid oedd gan Seloffehad fab Heffer feibion, dim ond merched; enwau merched Seloffehad oedd Mala, Noa, Hogla, Milca a Tirsa. 34Dyma deuluoedd Manasse, cyfanswm o bum deg dwy o filoedd a saith gant.
35Dyma feibion Effraim yn ôl eu teuluoedd: o Suthela, teulu'r Sutheliaid; o Becher, teulu'r Becheriaid; o Tahan, teulu'r Tahaniaid. 36Dyma feibion Suthela: o Eran, teulu'r Eraniaid. 37Dyma deuluoedd meibion Effraim, cyfanswm o dri deg dwy o filoedd a phum cant. Dyma feibion Joseff yn ôl eu teuluoedd.
38Meibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd: o Bela, teulu'r Belaiaid; o Asbel, teulu'r Asbeliaid; o Ahiram, teulu'r Ahiramiaid; 39o Suffam#26:39 Felly llawysgrifau a Fersiynau. TM, Seffuffam., teulu'r Suffamiaid; o Huffam, teulu'r Huffamiaid. 40Meibion Bela oedd Ard a Naaman; o Ard, teulu'r Ardiaid; o Naaman, teulu'r Naamaniaid. 41Dyma feibion Benjamin yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a chwe chant.
42Dyma feibion Dan yn ôl eu teuluoedd: o Suham, teulu'r Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan yn ôl eu teuluoedd. 43Cyfanswm holl deuluoedd y Suhamiaid oedd chwe deg pedair o filoedd a phedwar cant.
44Meibion Aser yn ôl eu teuluoedd: o Jimna, teulu'r Jimniaid; o Jesui, teulu'r Jesuiaid; o Bereia, teulu'r Bereiaid. 45O feibion Bereia: o Heber, teulu'r Heberiaid; o Malciel, teulu'r Malcieliaid. 46Enw merch Aser oedd Sara. 47Dyma deuluoedd meibion Aser, cyfanswm o bum deg tair o filoedd a phedwar cant.
48Meibion Nafftali yn ôl eu teuluoedd: o Jahseel, teulu'r Jahseeliaid; o Guni, teulu'r Guniaid; 49o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid. 50Dyma dylwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.
51Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.
52Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, 53“I'r rhain, yn ôl nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth. 54I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn ôl y nifer sydd ynddo. 55Yr wyt i rannu'r tir trwy goelbren, ac y maent i etifeddu yn ôl enwau llwythau eu hynafiaid. 56Rhennir yr etifeddiaeth trwy'r coelbren rhwng y rhai mawr a'r rhai bychain.”
57Dyma'r Lefiaid a restrwyd yn ôl eu teuluoedd: o Gerson, teulu'r Gersoniaid; o Cohath, teulu'r Cohathiaid; o Merari, teulu'r Merariaid. 58Dyma deuluoedd Lefi: y Libniaid, yr Hebroniaid, y Mahliaid, y Musiaid a'r Corahiaid. Yr oedd Cohath yn dad i Amram. 59Enw gwraig Amram oedd Jochebed ferch Lefi, a anwyd iddo yn yr Aifft; ac i Amram fe anwyd ohoni hi Aaron, Moses a'u chwaer Miriam. 60I Aaron fe anwyd Nadab, Abihu, Eleasar ac Ithamar; 61ond bu farw Nadab ac Abihu wrth iddynt offrymu tân halogedig gerbron yr ARGLWYDD. 62Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.
63Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen. 64Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai, 65oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.
Dewis Presennol:
Numeri 26: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004