Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 18

18
1Y mae'r un sy'n cadw ar wahân yn ceisio cweryl#18:1 Felly Fersiynau. Hebraeg, ceisio dymuniad.,
ac yn ymosod ar bob cynllun.
2Nid yw'r ynfyd yn ymhyfrydu mewn deall,
dim ond mewn mynegi ei feddwl ei hun.
3Yn dilyn drygioni fe ddaw dirmyg,
a gwarth ar ôl amarch.
4Y mae geiriau yn ddyfroedd dyfnion,
yn ffrwd yn byrlymu, yn ffynnon doethineb.
5Nid da yw dangos ffafr tuag at y drygionus,
i amddifadu'r cyfiawn o farn.
6Y mae genau'r ynfyd yn arwain at gynnen,
a'i eiriau yn gofyn am gurfa.
7Genau'r ynfyd yw ei ddinistr,
ac y mae ei eiriau yn fagl iddo'i hun.
8Y mae geiriau'r straegar fel danteithion
sy'n mynd i lawr i'r cylla.
9Y mae'r diog yn ei waith
yn frawd i'r un sy'n dwyn dinistr.
10Y mae enw'r ARGLWYDD yn dŵr cadarn;
rhed y cyfiawn ato ac y mae'n ddiogel.
11Golud y cyfoethog yw ei ddinas gadarn,
ac y mae fel mur cryf yn ei dyb ei hun.
12Cyn dyfod dinistr, y mae'r galon yn falch,
ond daw gostyngeiddrwydd o flaen anrhydedd.
13Y mae'r un sy'n ateb cyn gwrando
yn dangos ffolineb ac amarch.
14Gall ysbryd rhywun ei gynnal yn ei afiechyd,
ond os yw'r ysbryd yn isel, pwy a'i cwyd?
15Y mae meddwl deallus yn ennill gwybodaeth,
a chlust y doeth yn chwilio am ddeall.
16Y mae rhodd rhywun yn agor drysau iddo,
ac yn ei arwain at y mawrion.
17Y mae'r cyntaf i ddadlau ei achos yn ymddangos yn gyfiawn,
nes y daw ei wrthwynebwr a'i groesholi.
18Rhydd y coelbren derfyn ar gwerylon,
ac y mae'n dyfarnu rhwng y cedyrn.
19Y mae brawd a dramgwyddwyd fel caer#18:19 Felly Groeg. Hebraeg, o gaer. gadarn,
a chwerylon fel bollt castell.
20O ffrwyth ei enau y digonir cylla pob un,
a chynnyrch ei wefusau sy'n ei ddiwallu.
21Y mae'r tafod yn gallu rhoi marwolaeth neu fywyd,
ac y mae'r rhai sy'n ei hoffi yn bwyta'i ffrwyth.
22Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni
ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD.
23Y mae'r tlawd yn siarad yn ymbilgar,
ond y cyfoethog yn ateb yn arw.
24Honni eu bod yn gyfeillion a wna rhai;
ond ceir hefyd gyfaill sy'n glynu'n well na brawd.

Dewis Presennol:

Diarhebion 18: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda