Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Diarhebion 23

23
1Pan eisteddi i fwyta gyda llywodraethwr,
rho sylw manwl i'r hyn sydd o'th flaen,
2a gosod gyllell at dy wddf
os wyt yn un blysig.
3Paid â chwennych ei ddanteithion,
oherwydd bwyd sy'n twyllo ydyw.
4Paid â'th flino dy hun i ennill cyfoeth;
bydd yn ddigon synhwyrol i ymatal.
5Os tynni dy lygaid oddi arno, y mae'n diflannu,
oherwydd y mae'n magu adenydd,
fel eryr yn hedfan i'r awyr.
6Paid â bwyta gyda neb cybyddlyd,
na chwennych ei ddanteithion,
7oherwydd bydd hynny fel blewyn yn ei lwnc;
bydd yn dweud wrthyt, “Bwyta ac yf”,
ond ni fydd yn meddwl hynny.
8Byddi'n chwydu'r tameidiau a fwyteaist,
ac yn gwastraffu dy ganmoliaeth.
9Paid â llefaru yng nghlyw'r ffŵl,
oherwydd bydd yn dirmygu synnwyr dy eiriau.
10Paid â symud yr hen derfynau,
na chymryd meddiant o diroedd yr amddifaid;
11oherwydd y mae eu Gwaredwr yn gryf,
a bydd yn amddiffyn eu hachos yn dy erbyn.
12Gosod dy feddwl ar gyfarwyddyd,
a'th glust ar eiriau deall.
13Paid ag atal disgyblaeth oddi wrth blentyn;
os byddi'n ei guro â gwialen, ni fydd yn marw.
14Os byddi'n ei guro â gwialen,
byddi'n achub ei fywyd o Sheol.
15Fy mab, os bydd dy galon yn ddoeth,
bydd fy nghalon innau yn llawen.
16Byddaf yn llawenhau drwof i gyd
pan fydd dy enau yn llefaru'n uniawn.
17Paid â chenfigennu wrth bechaduriaid,
ond wrth y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD bob amser;
18os felly, bydd dyfodol iti,
ac ni thorrir ymaith dy obaith.
19Fy mab, gwrando a bydd ddoeth,
a gosod dy feddwl ar y ffordd iawn.
20Paid â chyfathrachu â'r rhai sy'n yfed gwin,
nac ychwaith â'r rhai glwth;
21oherwydd bydd y diotwr a'r glwth yn mynd yn dlawd,
a bydd syrthni'n eu gwisgo mewn carpiau.
22Gwrando ar dy dad, a'th genhedlodd,
a phaid â dirmygu dy fam pan fydd yn hen.
23Pryn wirionedd, a phaid â'i werthu;
pryn ddoethineb, cyfarwyddyd a deall.
24Bydd rhieni'r cyfiawn yn llawen iawn,
a'r rhai a genhedlodd y doeth yn ymhyfrydu ynddo.
25Bydded i'th dad a'th fam gael llawenydd,
ac i'r un a esgorodd arnat gael hyfrydwch.
26Fy mab, dal sylw arnaf,
a bydded i'th lygaid ymhyfrydu yn fy ffyrdd.
27Y mae'r butain fel pwll dwfn,
a'r ddynes estron fel pydew cul;
28y mae'n llercian fel lleidr,
ac yn amlhau'r godinebwyr ymysg dynion.
29Pwy sy'n cael gwae? Pwy sy'n cael gofid?
Pwy sy'n cael ymryson a chŵyn?
Pwy sy'n cael poen yn ddiachos,
a chochni llygaid?
30Y rhai sy'n oedi uwchben gwin,
ac yn dod i brofi gwin wedi ei gymysgu.
31Paid ag edrych ar win pan yw'n goch,
pan yw'n pefrio yn y cwpan,
ac yn mynd i lawr yn esmwyth.
32Yn y diwedd bydd yn brathu fel sarff,
ac yn pigo fel gwiber.
33Bydd dy lygaid yn gweld pethau rhyfedd,
a'th feddwl yn mynegi pethau cymysg.
34Byddi fel un yn mynd i'w wely yng nghanol y môr,
fel un yn gorwedd ar ben yr hwylbren.
35Byddi'n dweud#23:35 Felly Fersiynau. Hebraeg heb Byddi'n dweud., “Y maent yn fy nharo, ond nid wyf yn teimlo briw;
y maent yn fy nghernodio, ond ni wn hynny.
Pa bryd y deffroaf, imi geisio cael diod eto?”

Dewis Presennol:

Diarhebion 23: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda