Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 12

12
I'r Cyfarwyddwr: ar Seminith. Salm. I Ddafydd.
1Arbed, O ARGLWYDD; oherwydd nid oes un teyrngar ar ôl,
a darfu am y ffyddloniaid o blith pobl.
2Y mae pob un yn dweud celwydd wrth ei gymydog,
y maent yn gwenieithio wrth siarad â'i gilydd.
3Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithus
a'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar,
4y rhai sy'n dweud, “Yn ein tafod y mae ein nerth;
y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?”
5“Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd,
codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD,
“rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.”
6Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur:
arian wedi ei goethi mewn ffwrnais,
aur#12:6 Tebygol. Hebraeg, i'r ddaear. wedi ei buro seithwaith.
7Tithau, ARGLWYDD, cadw ni#12:7 Felly llawysgrifau a Groeg. TM, hwy.,
gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon,
8am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw,
a llygredd yn uchaf ymysg pobl.

Dewis Presennol:

Y Salmau 12: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd