Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 11

11
I'r Cyfarwyddwr: i Ddafydd.
1Yn yr ARGLWYDD y cefais loches;
sut y gallwch ddweud wrthyf,
“Ffo fel aderyn i'r mynydd#11:1 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, Ffo i'ch mynydd, O aderyn.,
2oherwydd y mae'r drygionus yn plygu'r bwa
ac yn gosod eu saethau yn y llinyn
i saethu yn y tywyllwch at yr uniawn”?
3Os dinistrir y sylfeini,
beth a wna'r cyfiawn?
4Y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd,
a gorsedd yr ARGLWYDD yn y nefoedd;
y mae ei lygaid yn edrych ar y ddynolryw,
a'i olygon yn ei phrofi.
5Profa'r ARGLWYDD y cyfiawn a'r drygionus,
a chas ganddo'r sawl sy'n caru trais.
6Y mae'n glawio marwor tanllyd a brwmstan ar y drygionus;
gwynt deifiol fydd eu rhan.
7Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn ac yn caru cyfiawnder,
a'r uniawn sy'n gweld ei wyneb.

Dewis Presennol:

Y Salmau 11: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda