Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 10

10
1Pam, ARGLWYDD, y sefi draw,
ac ymguddio yn amser cyfyngder?
2Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus;
dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.
3Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun,
ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.
4Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio,
nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.
5Troellog yw ei ffyrdd bob amser,
y mae dy farnau di y tu hwnt iddo;
ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.
6Fe ddywed ynddo'i hun, “Ni'm symudir;
trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf.”
7Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais;
y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.
8Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi,
ac yn lladd y diniwed yn y dirgel;
gwylia ei lygaid am yr anffodus.
9Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau;
llecha er mwyn llarpio'r truan,
ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;
10caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo,
ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
11Dywed yntau ynddo'i hun, “Anghofiodd Duw,
cuddiodd ei wyneb ac ni wêl ddim.”
12Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law;
nac anghofia'r anghenus.
13Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw,
ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?
14Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid,
ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law;
arnat ti y dibynna'r anffodus,
ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.
15Dryllia nerth y drygionus a'r anfad;
chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.
16Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd;
difethir y cenhedloedd o'i dir.
17Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus;
yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,
18yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig,
rhag i feidrolion beri ofn mwyach.

Dewis Presennol:

Y Salmau 10: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda