Y Salmau 18
18
I'r Cyfarwyddwr: I Ddafydd, gwas yr ARGLWYDD, a lefarodd eiriau'r gerdd hon wrth yr ARGLWYDD y diwrnod y gwaredodd yr ARGLWYDD ef o law ei elynion ac o law Saul. A dywedodd:
1Caraf di, O ARGLWYDD, fy nghryfder.
2Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd;
fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf,
fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer.
3Gwaeddaf ar yr ARGLWYDD sy'n haeddu mawl,
ac fe'm gwaredir rhag fy ngelynion.
4Pan oedd clymau angau'n tynhau amdanaf
a llifeiriant distryw yn fy nal,
5pan oedd clymau Sheol yn f'amgylchu
a maglau angau o'm blaen,
6gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,
ac ar fy Nuw iddo fy nghynorthwyo;
clywodd fy llef o'i deml,
a daeth fy ngwaedd i'w glustiau.
7Crynodd y ddaear a gwegian,
ysgydwodd sylfeini'r mynyddoedd,
a siglo oherwydd ei ddicter ef.
8Cododd mwg o'i ffroenau,
yr oedd tân yn ysu o'i enau,
a marwor yn cynnau o'i gwmpas.
9Fe agorodd y ffurfafen a disgyn,
ac yr oedd tywyllwch o dan ei draed.
10Marchogodd ar gerwb a hedfan,
gwibiodd ar adenydd y gwynt.
11Gosododd o'i amgylch dywyllwch yn guddfan,
a chymylau duon yn orchudd.
12O'r disgleirdeb o'i flaen daeth allan gymylau,
a chenllysg a cherrig tân.
13Taranodd yr ARGLWYDD o'r nefoedd,
a llefarodd llais y Goruchaf.#18:13 Cymh. 2 Sam. 22:14. TM yn ychwanegu a chenllysg a cherrig tân!
14Bwriodd allan ei saethau yma ac acw,
saethodd fellt a gwneud iddynt atsain.
15Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,
a dinoethwyd sylfeini'r byd,
oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,
a chwythiad anadl dy ffroenau.
16Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,
tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
17Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,
rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
18Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,
ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19Dygodd fi allan i le agored,
a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,
a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
21Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,
heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,
ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
23Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,
a chedwais fy hun rhag troseddu.
24Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder,
ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.
25Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,
yn ddifeius i'r difeius,
26ac yn bur i'r rhai pur;
ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
27Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,
ac yn darostwng y beilchion.
28Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;
fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.
29Oherwydd trwot ti y gallaf oresgyn llu;
trwy fy Nuw gallaf neidio dros fur.
30Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,
ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;
y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.
31Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?
A phwy sydd graig ond ein Duw ni,
32y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth,
ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?
33Gwna fy nhraed fel rhai ewig,
a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.
34Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,
i'm breichiau dynnu bwa pres.
35Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,
a'm cynnal â'th ddeheulaw,
a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.
36Rhoist imi le llydan i'm camau,
ac ni lithrodd fy nhraed.
37Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal;
ni ddychwelaf nes eu difetha.
38Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi,
ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.
39Yr wyt wedi fy ngwregysu â nerth i'r frwydr,
a darostwng fy ngelynion odanaf.
40Gosodaist fy nhroed ar eu gwddf,
a gwneud imi ddifetha'r rhai sy'n fy nghasáu.
41Y maent yn gweiddi, ond nid oes gwaredydd,
yn galw ar yr ARGLWYDD, ond nid yw'n eu hateb.
42Fe'u maluriaf cyn faned â llwch o flaen y gwynt,
a'u sathru fel llaid ar y strydoedd.
43Yr wyt yn fy ngwaredu rhag ymrafael pobl,
ac yn fy ngwneud yn ben ar y cenhedloedd;
pobl nad oeddwn yn eu hadnabod sy'n weision i mi.
44Pan glywant amdanaf, maent yn ufuddhau i mi,
ac estroniaid sy'n ymgreinio o'm blaen.
45Y mae estroniaid yn gwangalonni,
ac yn dyfod dan grynu o'u lloches.
46Byw yw'r ARGLWYDD, bendigedig yw fy nghraig;
dyrchafedig fyddo'r Duw sy'n fy ngwaredu,
47y Duw sy'n rhoi imi ddialedd,
ac yn darostwng pobloedd odanaf,
48sy'n fy ngwaredu rhag fy ngelynion,
yn fy nyrchafu uwchlaw fy ngwrthwynebwyr,
ac yn fy arbed rhag y gorthrymwyr.
49Oherwydd hyn, clodforaf di, O ARGLWYDD, ymysg y cenhedloedd,
a chanaf fawl i'th enw.
50Y mae'n gwaredu ei frenin yn helaeth,
ac yn cadw'n ffyddlon i'w eneiniog,
i Ddafydd ac i'w had am byth.
Dewis Presennol:
Y Salmau 18: BCND
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
© Cymdeithas y Beibl 2004
© British and Foreign Bible Society 2004