Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 27:1-14

Y Salmau 27:1-14 BCND

Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth, rhag pwy yr ofnaf? Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd, rhag pwy y dychrynaf? Pan fydd rhai drwg yn cau amdanaf i'm hysu i'r byw, hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion, fydd yn baglu ac yn syrthio. Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn, nid ofnai fy nghalon; pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf, eto, fe fyddwn yn hyderus. Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD, dyma'r wyf yn ei geisio: cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDD holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDD ac i ymofyn yn ei deml. Oherwydd fe'm ceidw yn ei gysgod yn nydd adfyd, a'm cuddio i mewn yn ei babell, a'm codi ar graig. Ac yn awr, fe gyfyd fy mhen goruwch fy ngelynion o'm hamgylch; ac offrymaf finnau yn ei deml aberthau llawn gorfoledd; canaf, canmolaf yr ARGLWYDD. Gwrando arnaf, ARGLWYDD, pan lefaf; bydd drugarog wrthyf, ac ateb fi. Dywedodd fy nghalon amdanat, “Ceisia ei wyneb”; am hynny ceisiaf dy wyneb, O ARGLWYDD. Paid â chuddio dy wyneb oddi wrthyf, na throi ymaith dy was mewn dicter, oherwydd buost yn gymorth i mi; paid â'm gwrthod na'm gadael, O Dduw, fy Ngwaredwr. Pe bai fy nhad a'm mam yn cefnu arnaf, byddai'r ARGLWYDD yn fy nerbyn. Dysg i mi dy ffordd, O ARGLWYDD, arwain fi ar hyd llwybr union, oherwydd fy ngwrthwynebwyr. Paid â'm gadael i fympwy fy ngelynion, oherwydd cododd yn f'erbyn dystion celwyddog sy'n bygwth trais. Yr wyf yn sicr y caf weld daioni'r ARGLWYDD yn nhir y rhai byw. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD, bydd gryf a gwrol dy galon a disgwyl wrth yr ARGLWYDD.