Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 5

5
I'r Cyfarwyddwr: ar ffliwtiau. Salm. I Ddafydd.
1Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD,
ystyria fy nghwynfan;
2clyw fy nghri am gymorth,
fy Mrenin a'm Duw.
3Arnat ti y gweddïaf, ARGLWYDD;
yn y bore fe glywi fy llais.
Yn y bore paratoaf ar dy gyfer,
ac fe ddisgwyliaf.
4Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni,
ni chaiff y drwg aros gyda thi,
5ni all y trahaus sefyll o'th flaen.
Yr wyt yn casáu'r holl wneuthurwyr drygioni
6ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd;
ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus.
7Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ,
plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti.
8 ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion,
gwna dy ffordd yn union o'm blaen.
9Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau#5:9 Felly'r Fersiynau. Hebraeg, ei eiriau.,
y mae dinistr o'u mewn;
bedd agored yw eu llwnc,
a'u tafod yn llawn gweniaith.
10Dwg gosb arnynt, O Dduw,
bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion;
bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau
am iddynt wrthryfela yn dy erbyn.
11Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau,
a chanu mewn llawenydd yn wastad;
bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw,
fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti.
12Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn,
ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.

Dewis Presennol:

Y Salmau 5: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda