Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Y Salmau 54

54
I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol. Mascîl. I Ddafydd, pan ddaeth y Siffiaid at Saul a dweud, “Y mae Dafydd yn cuddio yn ein mysg.”
1O Dduw, gwareda fi trwy dy enw,
a thrwy dy nerth cyfiawnha fi.
2O Dduw, gwrando fy ngweddi,
rho glust i eiriau fy ngenau.
3Oherwydd cododd gwŷr trahaus#54:3 Felly rhai llawysgrifau a Targwm. TM, cododd estroniaid. yn fy erbyn,
ac y mae gwŷr didostur yn ceisio fy mywyd;
nid ydynt yn meddwl am Dduw.
Sela
4Wele, Duw yw fy nghynorthwywr,
fy Arglwydd yw cynhaliwr fy mywyd.
5Bydded i ddrygioni ddychwelyd ar fy ngelynion!
Trwy dy wirionedd diddyma hwy.
6Aberthaf yn ewyllysgar i ti;
clodforaf dy enw, O ARGLWYDD, oherwydd da yw;
7oherwydd gwaredodd fi o bob cyfyngder,
a gwneud imi orfoleddu dros fy ngelynion.

Dewis Presennol:

Y Salmau 54: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda