Psalmau 38
38
Y Psalm. XXXVIII. Cywydd Deuair Hirion.
1Na cherydha ’n chwerw, Wiwdhuw,
Fi yn dy dhig, f’enaid, Dduw;
Yn dy lid, gwn dylodi,
Achos bu fai, na chosb fi.
2Dy saethau yn gwau dan gof,
Disgynant o dasg ynof;
A’th law o nerth, dhiwael Naf,
Oernych, a orwedh arnaf.
3Afiach wyf fi, o chaf farn,
Ai dig ydwyd, Duw gadarn?
Nid esmwyth f’esgyrn dismoel
O’m pechod, digymmod goel.
4A’m hanwiredh mewn eiriawl
Dros ’y mhen a droes i’m hawl;
Yn fy mhwysaw draw yn drwm,
Awch rhodres, fal baich rhydrwm.
5Fy archollion dyfnion, dû,
Anhap edrych, sy ’n pydru,
A gori yn wir, gerwin wedh!
A ffaeliais drwy fy ffoledh.
6Plygwyd a gŵyrwyd fi ar gais,
Accw oer imi, lle crymmais:
Rhodio a dwyn ’r hyd y dydh
Y galar benbwygilydh.
7Llawn o’m mewn oll iawn yw mi
O fraw antur hen frynti;
Nid oes iechyd, dwys ochain,
O’m cnwd i’m hoes, a’m cnawd main.
8Gwannychais, egwan hachen,
E droes fy mhwynt dros fy mhen:
Rhuadus wyf, rhaid yw son,
Coeliwch, gan dholur calon.
9O’th flaen, Arglwydh, fu rwydh frys,
Dwf well‐well, daw fy ’w’llys;
Digudh rhagod o wegi,
Chwaen dost, fy uchenaid i.
10Digalon ydwyf, gwelwch,
Dan warth a phlaid, dinerth, fflwch;
Dall agos ydyw y Llygaid,
Dilewyrch eu cyrch eu caid.
11Fy ngheraint rhag fy ngherydh,
O coelia byth, cilio bydh;
A’m carennydh, dirydh daith,
Ammarch, a safant ymaith.
12Gosod maglau, cau eu caid
Gweis a fyn geisio f’enaid;
Y caswyr, heb eu ceisio,
A’u siarad drwg, sura’ tro;
Gwastadol, nid gweis didwyll,
Eu dychymmig, dig, o dwyll.
13Fal bydhar, er trydar trais,
A chul awydh, ni chlywais;
Ac fal mud, y gofal mau,
Gwrs iawn, nid agorais enau.
14Ydh ydwyf heb nwyf yn war,
Afael bawdhyn, fal bydhar;
Y callair ni’s cair, naws cau,
Yn onest yn ei enau.
15Can’s arnad a rhad, Iôr rhwydh,
Eurglod, arhosaf, Arglwydh;
Fy Nuw, fy Arglwydh, fy Naf,
Wirner, gwrandewi arnaf.
16Na’d fantais, deisyfais hir,
I’m gelyn, ymogelir;
Pan lithrwyf, o nwyf a wnant
Or’chafiaeth, ymdhyrchafant.
17Yr wyf yn wir ar fin nos,
O gael ffug, yn gloff agos;
A’m tristyd, wryd orig,
Blin yw, draw o’m blaen a drig.
18Pan draethwyf, poen dir waeth‐waeth,
Y’m mhoenau ffres i’m hun ffraeth, —
A phan f’wyf drist a distaw,
O’m baich trwm o bechod draw; —
19Mae ’ngelynion chwithion, chwyrn,
Fwy godiad, yn fyw gedyrn.
20Gwrth ’nebwyr, herwyr oera’,
Drais dig, a dal drwg dros da,
Am imi, iawni uniawn,
O dhalen dysg, dhilyn dawn.
21Na wrthod, Iôr hynod, rhwydh,
Fawrglod, fi, O fy Arglwydh:
Fy Nuw, na fydh, hoywrydh hyf,
Ddiwarthwch, bell odhiwrthyf.
22Arglwydh mwyn, aroglaidh maeth,
Dewrwych, fy iechydwriaeth,
Brysia, Eryr brysurawl,
I’m cymmorth, a’m hymborth mawl.
Dewis Presennol:
Psalmau 38: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.