Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 51

51
Y Psalm. LI. Englyn Unodl Union.
1Trugarog, rhywiog bydh Iôr hael, — imi,
Emyn plant yr Israel;
Dod unwaith, nid wyt anhael,
Dy drugaredh fawredh fael.
Yn ol nifer, Nêr, gwn euraw, — drwy gur
Dy drugaredh hylaw;
Wyt Iôr hybarch, tro heibiaw,
Ebwch trwm o bechod draw.
2Rhaid golchi, Geli golau, — Iôn irwych,
F’anwiredh a’m drygau;
Glanha fyth y galon fau,
A chadw hi rhag pechodau.
3Drygau a beiau lle bydh, — o phwysant,
A gyffesaf beunydh;
I’m golwg, mwy gywilydh,
Baich dwys iawn o bechod sydh.
4I’th erbyn, Duw gwỳn, digonais, — Eurbor,
I’th erbyn y pechais;
Itti ’n unig y trig trais,
Waeth‐waeth, o ’r drwg a weithiais.
Cyfion dy fodhion, Duw, fydhych, — orig,
O’th eiriau a dh’wetych;
Ein Pôr uniawn, pur iawnwych
Yn dy farn, un Duw, a f’ych.
5Fe’m crewyd, hael wyd, mewn tylodi — mawr,
A mwy o dhireidi;
Mewn trais a cham fy mam i
Magodh, a mwy o wegi.
6Gwirionedh coelwedh calon, — Duw, Gwiwner,
Da gennyt bob cyfion;
Doethder a ffel dhirgelion
Dysgaist wyr, diesgus dôn.
7Glàn fydhaf, Duw Naf, dan wŷdh, — goel iachus,
O’m gwlychi ag isobwydh;
Golch fi, o’m hamgylch a fydh
Gwỳnnach na ’r eiry o ’r gwaenydh.
8Dêl llawenydh, rydh rwydhiant, — gloyw awydh,
I’w glywed heb sorriant;
F’esgyrn tynnion gwaelion gant,
Yn wych, a lawenychant.
9Digllondeb d’wynch, da mwnedh, — cudhia,
Rhag cyhoedhi ’nghamwedh;
Dilëa, Duw didlawd wedh,
Iôn euraid, fy anwiredh.
10Duw fawrwedh, croyw‐wedh, crea, — am goelwaith,
Im’ galon o ’r lana’;
Yspryd cyfion, digon da,
Mwyn adhwyn, im’ newydha.
11O’th olwg, drwy wg, d ’rogan — oferedh,
Na fwrw fi ’n drwstan;
Na thyn d’Ysbryd gloywbryd, glan,
Ollawl o honof allan.
12Dy lawenydh rhydh o’i rodhi — dyro,
O’th iachawdwriaeth, Geli;
Dy Yspryd, ni’s daw aspri,
O Duw fwyn, cynhalied fi.
13Yno dysgaf, Naf, o iawn wŷs — ebrwydh,
Dy lwybrau ir drwg yspys;
Ac attat try fry ar frys
Bechaduriaid baich dyrys.
14Fy Iachawdur pur, parawd, — Iôr, rhag gwaed
Cadw fi ar dhydh‐brawd;
Llawen‐ganaf a’m tafawd
Dy gyfiawnder, Nêr, yn wawd.
15Agor, Arglwydh rhwydh, rhodhwych, — yn foesol,
Fy ngwefusau ’n fynych;
A’m genau a geiriau gwych
A fyneg dy fawl fwynwych.
16Nid hyfryd gennyd, nag uniawn, — borthiant
O aberthoedh ffrwythlawn;
Nag offrwm, degwm, digawn
O gig llosgedig, llesg iawn.
17Yspryd twn, gwelwn Geli — oreubarch,
Yw ’r aberth a geri;
Calon dòn lle coeliwn di,
I’m agwrdh, ni dhirmygi.
18Pa ’r i Seion lon, lawenwych, — allu
Pur ’w’llys a fynnych;
Adeila gaer wenglaer, wych,
I Gaersalem, gwrs haelwych.
19Gennyf cymmeri, y Gwiwner — hybarch,
Aberth o gyfiawnder;
O rym tan offrwm tyner
O gig poeth ar dy gawg pêr.

Dewis Presennol:

Psalmau 51: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda