Psalmau 52
52
Y Psalm. LII. Englyn Unodl Union.
1Dyn o nerth dû serth gyda Sawl, — y bustl,
Ai bostio dy dhrwg hawl?
Trig i Wiwdhuw tragwydhawl
I rad a’i gariad a gwawl.
2Dy dafod aelod pa ’r wylaw — o drais,
A phob drwg dhyfeisiaw;
Ellyn llym, a eillia ’n llaw,
O deallwch, i dwyllaw.
3Gwell hefyd gennyd dhrygioni, — dalu,
Na dilyn daioni;
A chelwydh i’th swydh a’th sï
Mwy na gwir mwyn a geri.
4Ceri ’n frau eiriau orig — dhyn estron,
A dhinystria ’n ffyrnig;
O dafod dibwyll, dwyll dig,
Ag anonest, gwenwynig.
5Duw hawl tragwydhawl i gyd, — yn astrus,
A’th dhinystria hefyd:
Duw a’th dỳn er hyn o hyd,
Iôr byw, o dir y bywyd.
6Y cyfion mwynion mewn maenor — eilwaith
A gant weled rhagor:
Hwy’ ofnant faith berffaith Bôr,
Ag etto ef a’i gwatwor.
7I’w nerth ni chymmerth, ni chais — Dduw nefol,
Ddyn ofer drwg ei lais;
Mae’i obaith (trwy affaith trais)
Ef yw olud a’i falais.
8Irbren olifwen oleufedh, — yn hawdh iawn,
Yn nhŷ Dduw mae ’ngorsedh;
Ymdhiriedaf, gwychaf gwedh,
I’w gariad a’i drugaredh.
9Moliannaf, trwsiaf it’ draserch — weithion,
A wnaethost o wirserch,
I’th enw, o berffaith annerch;
Da yw i’th saint, doetha’ serch.
Dewis Presennol:
Psalmau 52: SC1595
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.

:
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Salmau Dafydd gan William Middleton 1595. Argraffiad gwreiddiol.