Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Psalmau 7

7
Y Seithved Psalm. O amryw fesurau.
1Ynod, dhvw hynod honnais dy enwi,
ynod ymdhiriedais:
Kadw fyfi dvw trirhagtrais
ferlidwyr milwyr malais.
2Rag tra difetha a fai vthr f’enaid,
vn fvnvd llew gyrch rvthr:
Rag idho fy rhwygo a rhvthr
heb wared wyneb arvthr.
3Os hynn fy nvw gwynn o gwynaw weithian,
A wnevthym ith dhigiaw:
Os anwiredh drygedh draw
Im dilin sydh im dwylaw.
4Am hedh wch koeliwch os kilwg noethi,
o gwnevthym i fowrdhrwg:
Ond achubais o drais drwg
f’erlidwyr ofer ledwg.
Proest kyfnewidiog chweban.
5Fyngelyn oerdhyn arw dhull
Erlidied fi dalied oll
Sathred f’enaid e gaid gwall
Ar dhaear anhygar hyll:
Fy ngogoniant medhiant mwll
kymred a bwried i bell.
Kyhydedh ferr nev wythbann.
6Kyfod Duw Arglwydh y kyfion
Kyfod a bid kroewlid crevlon
Wrth i digofaint raith dy gofion
Troso i gwilia Rag trais gâlon
A Bwrw ’n gofus a barn gyfion
7Odhino y kenetloedh dhynion;
Ith amgylch ogylch daw dhigon
Klogyrnach.
Oe blaen ymdhyrcha yna ion
8Dvw oe rad ynad pobl weinion
A farn o fawrnerth
Barna fi burnerth
Iaith dhiserth ith weision.
Rupy nt byrr.
Ynghy flownder.
Fynghyfownder, fynghv-fwyndon:
9Am gwirionedh
O grevlonedh y geirw elynion.
Ir maleiswyr
Ag ir troiswyr ag ir trowsion:
Tersyn elo
Yw lle delo llu duwiolion.
10Duw sydh wiliwr
Kyfan chwiliwr kefn a chalon:
Duw sydh chwarian
Keid wad tarian kiwdawd tirion.
Englyn garhir gorchest y beird yn arr.
11Yn gadarn fe farn vwch y val duw gwynn,
Da gennym diofal;
Gwr vnion yn gar anial:
Ir drwg ward rydh
Oer wg a rydh,
A dwg y dydh dig yw dal.
Hir a Thoddaid.
12Oni thry atto heb wnevthur attal;
Hogodhi gledhyf kryf kair i ofal,
I fwa enylodh ni sevthodh yn sal,
A gwnaeth e ’n barod o dhefod dhyfal;
13Gwnaeth yn barod nod dianwadal draidh,
I arfau marwaidh o rif am arial.
Kyhydedh wenndrosg neu hir.
Ae saethau sythion;
Parawd ynt purdon,
Oll im gelynion llym goel anial.
Englyn vnodl kyrch.
14Drwg trafaelia brynta bri
Drwy gynnal y drygioni;
A brynti oll nid braint hawdh
A genhedlawdh gwann odli.
A chelwydh dragywydh dro
An wir oedh enir idho;
15Y pwll o far pell i fodh
A glodhiodh yw gwilydhio:
Owdl gowydh
Ir ffos a wnaeth la wgaeth lid
Swrth ofid y syrth efo
16I dhrwg yw benn gynnen gar
Drwy watwar a dry etto.
Kywydh devair hirion.
Ae drais fab diras a fynn
Oera gwrar i goryn.
Englyn vnodl vnion.
17Kanmolaf fy naf gan ofyn kofus,
Kyfiawn dhuw diderfyn:
Kana yw enw kân ennyn
Vchel yw Duw vwchlaw dyn.

Dewis Presennol:

Psalmau 7: SC1595

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda