2 Cronicl 14:11
2 Cronicl 14:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Galwodd Asa ar yr ARGLWYDD ei Dduw a dweud, “O ARGLWYDD, nid oes neb fel ti i gynorthwyo'r gwan yn erbyn y cryf; cynorthwya ni, O ARGLWYDD ein Duw, oherwydd yr ydym yn ymddiried ynot, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dyrfa hon. O ARGLWYDD, ein Duw ni wyt ti; na fydded i neb gystadlu â thi.”
2 Cronicl 14:11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Asa’n gweddïo ar yr ARGLWYDD ei Dduw: “ARGLWYDD, dim ond ti sy’n gallu helpu’r gwan pan mae byddin enfawr yn dod yn eu herbyn nhw. Helpa ni ARGLWYDD ein Duw, dŷn ni’n dibynnu arnat ti. Dŷn ni wedi dod allan yn erbyn y fyddin enfawr yma ar dy ran di. O ARGLWYDD ein Duw, paid gadael i ddyn ennill yn dy erbyn di.”
2 Cronicl 14:11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Asa a waeddodd ar yr ARGLWYDD ei DDUW, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD, nid yw ddim i ti gynorthwyo, pa un bynnag ai gyda llawer, ai gyda’r rhai nid oes ganddynt gryfder: cynorthwya di ni, O ARGLWYDD ein DUW; canys pwyso yr ydym ni arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon: O ARGLWYDD, ein DUW ni ydwyt ti, na orfydded dyn i’th erbyn.