Actau 15:7-9
Actau 15:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ar ôl lot o ddadlau brwd dyma Pedr yn codi ar ei draed, a dweud: “Frodyr. Beth amser yn ôl dych chi’n cofio fod Duw wedi fy newis i rannu’r newyddion da gyda phobl o genhedloedd eraill, a’u cael nhw i gredu. Mae Duw yn gwybod beth sydd yng nghalon pobl, a dangosodd yn glir ei fod yn eu derbyn nhw drwy roi’r Ysbryd Glân iddyn nhw yn union fel y cafodd ei roi i ni. Doedd Duw ddim yn gwahaniaethu rhyngon ni a nhw, am ei fod wedi puro eu calonnau nhw hefyd wrth iddyn nhw gredu.
Actau 15:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar ôl llawer o ddadlau, cododd Pedr a dywedodd wrthynt: “Gyfeillion, gwyddoch chwi fod Duw yn y dyddiau cynnar yn eich plith wedi dewis bod y Cenhedloedd, trwy fy ngenau i, yn cael clywed gair yr Efengyl, a chredu. Ac y mae Duw, sy'n adnabod calonnau, wedi dwyn tystiolaeth iddynt trwy roi iddynt hwy yr Ysbryd Glân yr un fath ag i ninnau; ac ni wnaeth ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwythau, gan iddo lanhau eu calonnau hwy drwy ffydd.
Actau 15:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac wedi bod ymddadlau mawr, cyfododd Pedr, ac a ddywedodd wrthynt, Ha wŷr frodyr, chwi a wyddoch ddarfod i Dduw er ys talm o amser yn ein plith ni fy ethol i, i gael o’r Cenhedloedd trwy fy ngenau i glywed gair yr efengyl, a chredu. A Duw, adnabyddwr calonnau, a ddug dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Ysbryd Glân, megis ag i ninnau: Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.