Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Effesiaid 2:1-10

Effesiaid 2:1-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ar un adeg roeddech chi’n farw’n ysbrydol – am eich bod chi wedi gwrthryfela a phechu yn erbyn Duw. Roeddech chi’n byw yr un fath â phawb arall, yn dilyn ffordd y byd. Roeddech chi’n ufuddhau i Satan, tywysog teyrnas yr awyr – sef y pŵer ysbrydol sydd ar waith ym mywydau pawb sy’n anufudd i Dduw. Roedden ni i gyd felly ar un adeg. Roedden ni’n byw i blesio’r hunan pechadurus a gwneud beth bynnag oedd ein ffansi. Dyna oedd ein natur ni, ac roedden ni fel pawb arall yn haeddu cael ein cosbi gan Dduw. Ond mae Duw mor anhygoel o drugarog! Mae wedi’n caru ni gymaint! Mae wedi rhoi bywyd i ni gyda’r Meseia – ie, ni oedd yn farw’n ysbrydol am ein bod wedi gwrthryfela yn ei erbyn. Y ffaith fod Duw mor hael ydy’r unig reswm pam dŷn ni wedi’n hachub! Cododd Duw ni yn ôl yn fyw gyda’r Meseia Iesu a’n gosod i deyrnasu gydag e yn y byd nefol – dŷn ni wedi’n huno gydag e! Felly bydd haelioni Duw i’w weld yn glir yn y byd sydd i ddod. Does dim byd tebyg yn unman i’r caredigrwydd ddangosodd aton ni drwy beth wnaeth y Meseia Iesu. Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu. Dych chi wedi gwneud dim i haeddu’r peth. Anrheg Duw ydy e! Dych chi’n gallu gwneud dim i’w ennill, felly does dim lle i unrhyw un frolio. Duw sydd wedi’n gwneud ni beth ydyn ni. Mae wedi’n creu mewn perthynas â’r Meseia Iesu, i ni wneud yr holl bethau da mae e wedi’u trefnu ymlaen llaw i ni eu gwneud.