Hebreaid 5:12-13
Hebreaid 5:12-13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Erbyn hyn dylech fod yn gallu dysgu pobl eraill, ond mae angen i rywun eich dysgu chi eto am y pethau mwya syml yn neges Duw. Dych chi fel babis bach sydd ond yn gallu cymryd llaeth, a heb ddechrau bwyta bwyd solet! Dydy’r un sy’n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy’n iawn – mae fel plentyn bach.
Hebreaid 5:12-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn wir, er y dylech erbyn hyn fod yn athrawon, y mae arnoch angen rhywun i ailddysgu ichwi elfennau cyntaf oraclau Duw; angen llaeth sydd arnoch chwi, ac nid bwyd cryf. Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw.
Hebreaid 5:12-13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys lle dylech fod yn athrawon o ran amser, y mae arnoch drachefn eisiau dysgu i chwi beth ydyw egwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd cryf. Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw.