Hebreaid 5:7-10
Hebreaid 5:7-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd yn byw ar y ddaear, buodd Iesu’n gweddïo gan alw’n daer ac wylo wrth bledio ar Dduw am gael ei achub rhag marw. A dyma Duw’n gwrando arno am ei fod wedi ymostwng yn llwyr iddo. Ond er ei fod yn Fab Duw, roedd rhaid iddo ddysgu bod yn ufudd drwy beth wnaeth e ddioddef. Ac ar ôl iddo wneud popeth roedd ei angen, dyma achubiaeth dragwyddol yn tarddu ohono i bawb sy’n ufudd iddo. Cafodd ei benodi gan Dduw yn archoffeiriad “yr un fath â Melchisedec.”
Hebreaid 5:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn nyddiau ei gnawd, fe offrymodd Iesu weddïau ac erfyniadau, gyda llef uchel a dagrau, i'r Un oedd yn abl i'w achub rhag marwolaeth, ac fe gafodd ei wrando o achos ei barchedig ofn. Er mai Mab ydoedd, dysgodd ufudd-dod drwy'r hyn a ddioddefodd, ac wedi ei berffeithio, daeth yn ffynhonnell iachawdwriaeth dragwyddol i bawb sydd yn ufuddhau iddo, wedi ei enwi gan Dduw yn archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.
Hebreaid 5:7-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo, trwy lefain cryf a dagrau, offrwm gweddïau ac erfyniau at yr hwn oedd abl i’w achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd; Er ei fod yn Fab, a ddysgodd ufudd-dod trwy’r pethau a ddioddefodd: Ac wedi ei berffeithio, efe a wnaethpwyd yn Awdur iachawdwriaeth dragwyddol i’r rhai oll a ufuddhânt iddo; Wedi ei gyfenwi gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl urdd Melchisedec.