Eseia 46:10-11
Eseia 46:10-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Rwyf o'r dechreuad yn mynegi'r diwedd, ac o'r cychwyn yr hyn oedd heb ei wneud. Dywedaf, ‘Fe saif fy nghyngor, a chyflawnaf fy holl fwriad.’ Galwaf ar aderyn ysglyfaethus o'r dwyrain, a gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell. Yn wir, lleferais ac fe'i dygaf i ben, fe'i lluniais ac fe'i gwnaf.
Eseia 46:10-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n dweud o’r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i’n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i’n cyflawni popeth dw i’n ei fwriadu.’ Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o’r dwyrain, yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i’n dweud rhywbeth, mae’n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi’i gynllunio, a bydda i’n siŵr o’i wneud!
Eseia 46:10-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yn mynegi y diwedd o’r dechreuad, ac er cynt yr hyn ni wnaed eto, yn dywedyd, Fy nghyngor a saif, a’m holl ewyllys a wnaf: Yn galw aderyn o’r dwyrain, y gŵr a wna fy nghyngor o wlad bell: dywedais, a mi a’i dygaf i ben; mi a’i lluniais, a mi a’i gwnaf.