Josua 5:13
Josua 5:13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan oedd Josua wrth ymyl Jericho, gwelodd ddyn yn sefyll o’i flaen yn dal cleddyf yn ei law. Dyma Josua’n mynd ato ac yn gofyn iddo, “Wyt ti ar ein hochr ni, neu gyda’n gelynion ni?”
Rhanna
Darllen Josua 5Josua 5:13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Tra oedd Josua yn ymyl Jericho, cododd ei lygaid a gweld dyn yn sefyll o'i flaen â'i gleddyf noeth yn ei law. Aeth Josua ato a gofyn iddo, “Ai gyda ni, ynteu gyda'n gwrthwynebwyr yr wyt ti?”
Rhanna
Darllen Josua 5Josua 5:13 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phan oedd Josua wrth Jericho, yna efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele ŵr yn sefyll gyferbyn ag ef, â’i gleddyf noeth yn ei law. A Josua a aeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Ai gyda ni yr ydwyt ti, ai gyda’n gwrthwynebwyr?
Rhanna
Darllen Josua 5