Salm 119:41-80
Salm 119:41-80 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gad i mi brofi dy gariad, O ARGLWYDD. Achub fi, fel rwyt ti wedi addo. Wedyn bydda i’n gallu ateb y rhai sy’n fy enllibio, gan fy mod i’n credu beth rwyt ti’n ei ddweud. Paid rhwystro fi rhag dweud beth sy’n wir, dw i wedi rhoi fy ngobaith yn dy ddyfarniad di. Wedyn bydda i’n ufudd i dy ddysgeidiaeth di am byth bythoedd! Gad i mi gerdded yn rhydd am fy mod i wedi ymroi i wneud beth rwyt ti eisiau. Bydda i’n dweud wrth frenhinoedd am dy ofynion. Fydd gen i ddim cywilydd. Mae dy orchmynion yn rhoi’r pleser mwya i mi, dw i wir yn eu caru nhw! Dw i’n cydnabod ac yn caru dy orchmynion, ac yn myfyrio ar dy ddeddfau. Cofia beth ddwedaist ti wrth dy was – dyna beth sydd wedi rhoi gobaith i mi. Yr hyn sy’n gysur i mi pan dw i’n isel ydy fod dy addewidion di yn rhoi bywyd i mi. Mae pobl falch wedi bod yn fy ngwawdio i’n greulon, ond dw i ddim wedi gwyro oddi wrth dy ddysgeidiaeth di. Dw i’n cofio dy reolau ers talwm, O ARGLWYDD, ac mae hynny’n rhoi cysur i mi. Dw i’n gwylltio’n lân wrth feddwl am y bobl ddrwg hynny sy’n gwrthod dy ddysgeidiaeth di. Dy ddeddfau di fu’n destun i’m cân ble bynnag dw i wedi byw! Dw i’n cofio dy enw di yn y nos, O ARGLWYDD, ac yn gwneud beth rwyt ti’n ei ddysgu. Dyna dw i wedi’i wneud bob amser – ufuddhau i dy ofynion di. Ti, ARGLWYDD, ydy fy nghyfran i: Dw i’n addo gwneud fel rwyt ti’n dweud. Dw i’n erfyn arnat ti o waelod calon: dangos drugaredd ata i, fel rwyt wedi addo gwneud. Dw i wedi bod yn meddwl am fy mywyd, ac wedi penderfynu troi yn ôl at dy ofynion di. Heb unrhyw oedi, dw i’n brysio i wneud beth rwyt ti’n ei orchymyn. Mae pobl ddrwg yn gosod trapiau i bob cyfeiriad, ond dw i ddim yn anghofio dy ddysgeidiaeth di. Ganol nos dw i’n codi i ddiolch am dy fod ti’n dyfarnu’n gyfiawn. Dw i’n ffrind i bawb sy’n dy ddilyn di, ac yn gwneud beth rwyt ti’n ei ofyn. Mae dy gariad di, O ARGLWYDD, yn llenwi’r ddaear! Dysga dy ddeddfau i mi. Rwyt wedi bod yn dda tuag ata i fel y gwnest ti addo, O ARGLWYDD. Rho’r gallu i mi wybod beth sy’n iawn; dw i’n trystio dy orchmynion di. Rôn i’n arfer mynd ar gyfeiliorn, ac roeddwn i’n dioddef, ond bellach dw i’n gwneud beth rwyt ti’n ddweud. Rwyt ti’n dda, ac yn gwneud beth sy’n dda: dysga dy ddeddfau i mi. Mae pobl falch wedi bod yn palu celwydd amdana i, ond dw i’n gwneud popeth alla i i gadw dy orchmynion. Pobl cwbl ddideimlad ydyn nhw, ond dw i wrth fy modd gyda dy ddysgeidiaeth di. Roedd yn beth da i mi orfod dioddef, er mwyn i mi ddysgu cadw dy ddeddfau. Mae beth rwyt ti’n ei ddysgu yn fwy gwerthfawr na miloedd o ddarnau arian ac aur. Ti sydd wedi fy ngwneud i a’m siapio i; helpa fi i ddeall er mwyn dysgu dy orchmynion di. Bydd pawb sy’n dy barchu mor hapus wrth weld y newid ynof fi, am mai dy eiriau di sy’n rhoi gobaith i mi. O ARGLWYDD, dw i’n gwybod fod beth rwyt ti’n ei benderfynu yn iawn; roeddet ti’n fy nisgyblu i am dy fod ti mor ffyddlon i mi. Gad i dy gariad ffyddlon di roi cysur i mi, fel gwnest ti addo i dy was. Mae dy ddysgeidiaeth di’n rhoi’r pleser mwya i mi felly gad i mi brofi dy dosturi, a chael byw. Gad i’r rhai balch gael eu cywilyddio am wneud drwg i mi ar gam! Dw i’n mynd i astudio dy ofynion di. Gwna i’r rhai sy’n dy barchu ac yn dilyn dy reolau fy nerbyn i yn ôl. Gwna i mi roi fy hun yn llwyr i ddilyn dy ddeddfau fel bydd dim cywilydd arna i.
Salm 119:41-80 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pâr i'th gariad ddod ataf, O ARGLWYDD, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy addewid; yna rhoddaf ateb i'r rhai sy'n fy ngwatwar, oherwydd ymddiriedais yn dy air. Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau, oherwydd fe obeithiais yn dy farnau. Cadwaf dy gyfraith bob amser, hyd byth bythoedd. Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd, oherwydd ceisiais dy ofynion. Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd, ac ni fydd arnaf gywilydd; ymhyfrydaf yn dy orchmynion am fy mod yn eu caru. Parchaf dy orchmynion am fy mod yn eu caru, a myfyriaf ar dy ddeddfau. Cofia dy air i'th was, y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo. Hyn fu fy nghysur mewn adfyd, fod dy addewid di yn fy adfywio. Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd, ond ni throis oddi wrth dy gyfraith. Yr wyf yn cofio dy farnau erioed, ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD. Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionus sy'n gwrthod dy gyfraith. Daeth dy ddeddfau'n gân i mi ymhle bynnag y bûm yn byw. Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD, ac fe gadwaf dy gyfraith. Hyn sydd wir amdanaf, imi ufuddhau i'th ofynion. Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD; addewais gadw dy air. Yr wyf yn erfyn arnat â'm holl galon, bydd drugarog wrthyf yn ôl dy addewid. Pan feddyliaf am fy ffyrdd, trof fy nghamre'n ôl at dy farnedigaethau; brysiaf, heb oedi, i gadw dy orchmynion. Er i glymau'r drygionus dynhau amdanaf, eto nid anghofiais dy gyfraith. Codaf ganol nos i'th foliannu di am dy farnau cyfiawn. Yr wyf yn gymar i bawb sy'n dy ofni, i'r rhai sy'n ufuddhau i'th ofynion. Y mae'r ddaear, O ARGLWYDD, yn llawn o'th ffyddlondeb; dysg i mi dy ddeddfau. Gwnaethost ddaioni i'th was, yn unol â'th air, O ARGLWYDD. Dysg imi ddirnadaeth a gwybodaeth, oherwydd yr wyf yn ymddiried yn dy orchmynion. Cyn imi gael fy ngheryddu euthum ar gyfeiliorn, ond yn awr yr wyf yn cadw dy air. Yr wyt ti yn dda, ac yn gwneud daioni; dysg i mi dy ddeddfau. Y mae'r trahaus yn fy mhardduo â chelwydd, ond yr wyf fi'n ufuddhau i'th ofynion â'm holl galon; y mae eu calon hwy'n drwm gan fraster, ond yr wyf fi'n ymhyfrydu yn dy gyfraith. Mor dda yw imi gael fy ngheryddu, er mwyn imi gael dysgu dy ddeddfau! Y mae cyfraith dy enau yn well i mi na miloedd o aur ac arian. Dy ddwylo di a'm gwnaeth ac a'm lluniodd; rho imi ddeall i ddysgu dy orchmynion. Pan fydd y rhai sy'n dy ofni yn fy ngweld, fe lawenychant am fy mod yn gobeithio yn dy air. Gwn, O ARGLWYDD, fod dy farnau'n gyfiawn, ac mai mewn ffyddlondeb yr wyt wedi fy ngheryddu. Bydded dy gariad yn gysur i mi, yn unol â'th addewid i'th was. Pâr i'th drugaredd ddod ataf, fel y byddaf fyw, oherwydd y mae dy gyfraith yn hyfrydwch i mi. Cywilyddier y trahaus oherwydd i'w celwydd fy niweidio, ond byddaf fi'n myfyrio ar dy ofynion. Bydded i'r rhai sy'n dy ofni droi ataf fi, iddynt gael gwybod dy farnedigaethau. Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau, rhag imi gael fy nghywilyddio.
Salm 119:41-80 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deued i mi dy drugaredd, ARGLWYDD, a’th iachawdwriaeth yn ôl dy air. Yna yr atebaf i’m cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais. Na ddwg dithau air y gwirionedd o’m genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais. A’th gyfraith a gadwaf yn wastadol, byth ac yn dragywydd. Rhodiaf hefyd mewn ehangder: oherwydd dy orchmynion di a geisiaf. Ac am dy dystiolaethau di y llefaraf o flaen brenhinoedd, ac ni bydd cywilydd gennyf. Ac ymddigrifaf yn dy orchmynion, y rhai a hoffais. A’m dwylo a ddyrchafaf at dy orchmynion, y rhai a gerais; a mi a fyfyriaf yn dy ddeddfau. Cofia y gair wrth dy was, yn yr hwn y peraist i mi obeithio. Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a’m bywhaodd i. Y beilchion a’m gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di. Cofiais, O ARGLWYDD, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais. Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di. Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhŷ fy mhererindod. Cofiais dy enw, ARGLWYDD, y nos; a chedwais dy gyfraith. Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di. O ARGLWYDD, fy rhan ydwyt; dywedais y cadwn dy eiriau. Ymbiliais â’th wyneb â’m holl galon: trugarha wrthyf yn ôl dy air. Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau di. Brysiais, ac nid oedais gadw dy orchmynion. Minteioedd yr annuwiolion a’m hysbeiliasant: ond nid anghofiais dy gyfraith di. Hanner nos y cyfodaf i’th foliannu, am farnedigaethau dy gyfiawnder. Cyfaill ydwyf fi i’r rhai oll a’th ofnant, ac i’r rhai a gadwant dy orchmynion. Llawn yw y ddaear o’th drugaredd, O ARGLWYDD: dysg i mi dy ddeddfau. Gwnaethost yn dda â’th was, O ARGLWYDD, yn ôl dy air. Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian. Dy ddwylo a’m gwnaethant, ac a’m lluniasant: pâr i mi ddeall, fel y dysgwyf dy orchmynion. Y rhai a’th ofnant a’m gwelant, ac a lawenychant; oblegid gobeithio ohonof yn dy air di. Gwn, ARGLWYDD, mai cyfiawn yw dy farnedigaethau; ac mai mewn ffyddlondeb y’m cystuddiaist. Bydded, atolwg, dy drugaredd i’m cysuro, yn ôl dy air i’th wasanaethwr. Deued i mi dy drugareddau, fel y byddwyf byw; oherwydd dy gyfraith yw fy nigrifwch. Cywilyddier y beilchion, canys gwnânt gam â mi yn ddiachos: ond myfi a fyfyriaf yn dy orchmynion di. Troer ataf fi y rhai a’th ofnant di, a’r rhai a adwaenant dy dystiolaethau. Bydded fy nghalon yn berffaith yn dy ddeddfau; fel na’m cywilyddier.