Salm 18:30-36
Salm 18:30-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae Duw yn gwneud beth sy’n iawn; mae’r ARGLWYDD yn dweud beth sy’n wir. Mae fel tarian yn amddiffyn pawb sy’n troi ato. Oes duw arall ond yr ARGLWYDD? Oes craig arall ar wahân i’n Duw ni? Fe ydy’r Duw sy’n rhoi nerth i mi – mae’n symud pob rhwystr o’m blaen. Mae’n rhoi coesau fel carw i mi; fydda i byth yn llithro ar y creigiau uchel. Dysgodd fi sut i ymladd – dw i’n gallu plygu bwa o bres! Rwyt wedi fy amddiffyn fel tarian; mae dy law gref yn fy nghynnal. Mae dy ofal wedi gwneud i mi lwyddo. Ti wnaeth i mi frasgamu ymlaen a wnes i ddim baglu.
Salm 18:30-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd, ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur; y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo. Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD? A phwy sydd graig ond ein Duw ni, y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius? Gwna fy nhraed fel rhai ewig, a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela, i'm breichiau dynnu bwa pres. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu, a'm cynnal â'th ddeheulaw, a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal. Rhoist imi le llydan i'm camau, ac ni lithrodd fy nhraed.
Salm 18:30-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW sydd berffaith ei ffordd: gair yr ARGLWYDD sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. Canys pwy sydd DDUW heblaw yr ARGLWYDD? a phwy sydd graig ond ein DUW ni? DUW sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith. Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla. Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau. Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd. Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed.