Salm 5:1-12
Salm 5:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwrando ar fy ngeiriau, ARGLWYDD, ystyria fy nghwynfan; clyw fy nghri am gymorth, fy Mrenin a'm Duw. Arnat ti y gweddïaf, ARGLWYDD; yn y bore fe glywi fy llais. Yn y bore paratoaf ar dy gyfer, ac fe ddisgwyliaf. Oherwydd nid wyt Dduw sy'n hoffi drygioni, ni chaiff y drwg aros gyda thi, ni all y trahaus sefyll o'th flaen. Yr wyt yn casáu'r holl wneuthurwyr drygioni ac yn difetha'r rhai sy'n dweud celwydd; ffieiddia'r ARGLWYDD un gwaedlyd a thwyllodrus. Ond oherwydd dy gariad mawr, dof fi i'th dŷ, plygaf yn dy deml sanctaidd mewn parch i ti. ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder oherwydd fy ngelynion, gwna dy ffordd yn union o'm blaen. Oherwydd nid oes coel ar eu geiriau, y mae dinistr o'u mewn; bedd agored yw eu llwnc, a'u tafod yn llawn gweniaith. Dwg gosb arnynt, O Dduw, bydded iddynt syrthio trwy eu cynllwynion; bwrw hwy ymaith yn eu holl bechodau am iddynt wrthryfela yn dy erbyn. Ond bydded i bawb sy'n llochesu ynot ti lawenhau, a chanu mewn llawenydd yn wastad; bydd yn amddiffyn dros y rhai sy'n caru dy enw, fel y bydd iddynt orfoleddu ynot ti. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn bendithio'r cyfiawn, ac y mae dy ffafr yn ei amddiffyn fel tarian.
Salm 5:1-12 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwranda ar beth dw i’n ddweud, O ARGLWYDD; ystyria yn ofalus beth sy’n fy mhoeni i. Cymer sylw ohono i’n gweiddi am help, oherwydd arnat ti dw i’n gweddïo fy Mrenin a’m Duw. Gwranda arna i ben bore, O ARGLWYDD; dw i’n pledio fy achos wrth iddi wawrio, ac yn disgwyl am ateb. Ti ddim yn Dduw sy’n mwynhau drygioni; dydy pobl ddrwg ddim yn gallu aros yn dy gwmni. Dydy’r rhai sy’n brolio ddim yn gallu sefyll o dy flaen di; ti’n casáu’r rhai sy’n gwneud drwg. Byddi’n dinistrio’r rhai sy’n dweud celwydd; mae’n gas gen ti bobl sy’n dreisgar ac yn twyllo, O ARGLWYDD. Ond dw i’n gallu mynd i mewn i dy dŷ di am fod dy gariad di mor anhygoel. Plygaf i addoli mewn rhyfeddod yn dy deml sanctaidd. O ARGLWYDD, arwain fi i wneud beth sy’n iawn. Mae yna rai sy’n fy ngwylio i ac am ymosod arna i; plîs symud y rhwystrau sydd ar y ffordd o’m blaen i. Achos dŷn nhw ddim yn dweud y gwir; eu hawydd dyfnaf ydy dinistrio pobl! Mae eu geiriau’n drewi fel bedd agored, a’u tafodau slic yn gwneud dim byd ond seboni. Dinistria nhw, O Dduw! Gwna i’w cynlluniau nhw eu baglu! Tafla nhw i ffwrdd am eu bod wedi tynnu’n groes gymaint! Maen nhw wedi gwrthryfela yn dy erbyn di! Ond gad i bawb sy’n troi atat ti am loches fod yn llawen! Gad iddyn nhw orfoleddu am byth! Cysgoda drostyn nhw, er mwyn i’r rhai sy’n caru dy enw di gael dathlu. Oherwydd byddi di’n bendithio’r rhai cyfiawn, O ARGLWYDD; bydd dy ffafr fel tarian fawr o’u cwmpas nhw.
Salm 5:1-12 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gwrando fy ngeiriau, ARGLWYDD; deall fy myfyrdod. Erglyw ar lef fy ngwaedd, fy Mrenin, a’m DUW: canys arnat y gweddïaf. Yn fore, ARGLWYDD, y clywi fy llef; yn fore y cyfeiriaf fy ngweddi atat, ac yr edrychaf i fyny. Oherwydd nid wyt ti DDUW yn ewyllysio anwiredd: a drwg ni thrig gyda thi. Ynfydion ni safant yn dy olwg: caseaist holl weithredwyr anwiredd. Difethi y rhai a ddywedant gelwydd: yr ARGLWYDD a ffieiddia y gŵr gwaedlyd a’r twyllodrus. A minnau a ddeuaf i’th dŷ di yn amlder dy drugaredd; ac a addolaf tua’th deml sanctaidd yn dy ofn di. ARGLWYDD, arwain fi yn dy gyfiawnder, o achos fy ngelynion; ac uniona dy ffordd o’m blaen. Canys nid oes uniondeb yn eu genau; eu ceudod sydd anwireddau: bedd agored yw eu ceg; gwenieithiant â’u tafod. Distrywia hwynt, O DDUW; syrthiant oddi wrth eu cynghorion: gyr hwynt ymaith yn amlder eu camweddau: canys gwrthryfelasant i’th erbyn. Ond llawenhaed y rhai oll a ymddiriedant ynot ti: llafarganant yn dragywydd, am i ti orchuddio drostynt: a’r rhai a garant dy enw, gorfoleddant ynot. Canys ti, ARGLWYDD, a fendithi y cyfiawn: â charedigrwydd megis â tharian y coroni di ef.