Ruth 2:11
Ruth 2:11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dw i wedi clywed am y cwbl rwyt i wedi’i wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a’r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti.
Rhanna
Darllen Ruth 2Ruth 2:11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Atebodd Boas hi a dweud, “Cefais wybod am y cwbl yr wyt ti wedi ei wneud i'th fam-yng-nghyfraith ar ôl marw dy ŵr, ac fel y gadewaist dy dad a'th fam a'th wlad enedigol, a dod at bobl nad oeddit yn eu hadnabod o'r blaen.
Rhanna
Darllen Ruth 2Ruth 2:11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A Boas a atebodd, ac a ddywedodd wrthi, Gan fynegi y mynegwyd i mi yr hyn oll a wnaethost i’th chwegr ar ôl marwolaeth dy ŵr; ac fel y gadewaist dy dad a’th fam, a gwlad dy enedigaeth, ac y daethost at bobl nid adwaenit o’r blaen.
Rhanna
Darllen Ruth 2