Ieuenctid
Dicter a Chasineb
Mae pawb yn gorfod delio gyda'r duedd i wylltio ar ryw bwynt. Bydd y cynllun saith niwrnod hwn yn rhoi persbectif Beiblaidd i ti gyda darn byr i ddarllen bob dydd. Darllena'r darn a chymra amser i edrych arnat ti dy hun yn onest, a chaniatâ Duw i siarad yn y sefyllfa rwyt ynddi.
Capacity: Student Leadership
God has called you to great things. Not just when you get older, but right now. This plan will encourage you and show you what it looks like to step up and lead right where you're at in your life right now. God can and will use you in awesome ways. The question is—will you let Him?
Dillad
Mae cymdeithas yn rhoi lot o bwyslais ar yr hyn mae person yn ei wisgo. Felly falle dy fod yn tybio beth sydd gan y Beibl i ddweud am sut olwg ddylai fod arnom - ydy e gymaint o hynny o bwys? Bydd y cynllun saith niwrnod yma yn dangos i ti ei bod hi o bwys gan dy fod yn blentyn i Dduw.
Pryder
Medrwn adael i ofn a phryder lenwi ein bywydau. Nid ysbryd o bryder ac ofn fydd Duw yn ei roi i ni ond ysbryd o ddewrder. Mae’r cynllun darllen saith diwrnod am bryder yn help i ti osod Duw yng nghanol dy amgylchiadau. Y diwedd perffaith i bryderu yw ymddiried yn Nuw.
Camdrin
Does neb erioed wedi haeddu cael eu camdrin. Mae Duw yn dy garu di ac am i ti gael dy werthfawrogi a gofalu amdanat. amdanat. Ddylai camgymeriad, methiant neu gamddealltwriaeth fyth arwain i gamdriniaeth gorfforol, rhywiol neu emosiynol. Bydd y cynllun saith-diwrnod hwn yn helpu rhywun i ddeall bod Duw yn dymuno cyfiawnder, cariad a chysur i bawb.
Marwolaeth
Mae marwolaeth yn rhywbeth rhaid i bawb ddelio ag e ar hyd eu bywydau. Mae yna gymaint o gwestiynau yn codi ac yn gallu ein hysgwyd at ein seiliau. Bydd y cynllun saith niwrnod hwn yn rhoi brith olwg i ti o'r hyn sydd gan y Beibl i'w ddweud am ddo o hyd i nerth a chysur yng nghwyneb marwolaeth.
Dylanwad Ffrindiau
Mae ffrindiau yn gallu bod yn ddylanwad llesol neu'n ddylanwad niweidiol. Mae Duw wedi ein galw i'w ddilyn - felly mae gwybod am, a deall Ei safonau yn hollbwysig. Wrth fyfyrio yn y cynllun darllen saith diwrnod - cewch dderbyn nerth i wynebu pwysau bywyd a'r gallu i ddewis eich llwybrau yn ddoeth.