Dicter a ChasinebSampl
Nid yw gwylltio bob tro yn bechod achos mae gen ti'r hawl i wylltio am beth mae Duw wedi gwylltio amdano. Mae'n cael ei alw'n wylltio cyfiawn. Mae gen ti hawl i fod fel hyn nes bod yr haul yn machlud. Bydd rhaid iti chwilio dy galon go iawn am darddiad y gwylltineb. Pa un ai wyt ti'n cuddio'r gwylltineb o'th fewn neu'n ffrwydro, mae'r ddau yr un mor beryglus â'i gilydd. Mae'n debyg dy fod yn gwybod hyn yn barod ond mae gwylltio heb fod angen o dda i ddim i ti, na'r bobol o'th gwmpas. Mae'n amser gadael i Dduw ffeirio'r gwylltineb efo cariad.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae pawb yn gorfod delio gyda'r duedd i wylltio ar ryw bwynt. Bydd y cynllun saith niwrnod hwn yn rhoi persbectif Beiblaidd i ti gyda darn byr i ddarllen bob dydd. Darllena'r darn a chymra amser i edrych arnat ti dy hun yn onest, a chaniatâ Duw i siarad yn y sefyllfa rwyt ynddi.
More
We would like to thank LifeChurch.tv for providing this plan. For more information, please visit: www.lifechurch.tv