Rhyw Sampl
Mae pornograffi a'r cyfle am brofi chwant rhywiol o'n cwmpas ym mhobman. Ugain mlynedd yn ôl roedd yn rhaid ymdrechu i gael gafael ar bornograffi. Heddiw mae'n bosib cael gafael arno wrth gynnau'r cyfrifiadur neu'r teledu. Mae'n rhwydd syrthio i arfer chwant a rhyw sydd heb fod yn bur. Oes gan y Beibl rywbeth i'w ddweud am hyn? Oes gan Dduw rywbeth i'w ddweud am beth ddylai ein gofal fod tuag at ein gilydd? Dydy'r Beibl ddim yn enwi mastyrbeiddio er enghraifft ond mae'n dweud beth ddylai ein hagwedd fod at burdeb rhywiol a chwant. Os ydych am newid eich agwedd at rywioldeb - dywedwch wrth rywun arall am eich trafferthion - bydd hwn yn help gyda'r frwydr ac yn ei gwneud hi'n haws i chi orchfygu.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae cyfeiriadau at ryw o'n cwmpas ym mhobman. Mae'n rhwydd syrthio i'r fagl o fastyrbeiddio gan ymarfer chwant ac arferion rhywiol sydd heb fod yn bur. Mae Duw yn disgwyl i ni aros yn bur, wrth ddibynnu ar ei Ysbryd Glân a dangos hunan ddisgyblaeth. Bydd y cynllun darllen saith diwrnod yma yn eich helpu i fyw bywyd pur yn ôl safonau Duw. Chwiliwch am rywun ydych chi'n ymddiried ynddyn nhw a darllenwch y darnau yma gyda'ch gilydd. Mae atebolrwydd yn hanfodol wrth ddiogelu purdeb rhywiol.
More
We would like to thank Life.Church for providing this plan. For more information, please visit: www.life.church