Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Adfent: Y Daith hyd at y NadoligSampl

Advent: The Journey to Christmas

DYDD 18 O 25

Syfrdanwyd y rhai Syfrdanol

Fedri did ddychmygu'r hyn brofodd y bugeiliaid pan ymddangosodd "llu o angylion" ar y noswyl Nadolig hwnnw? Y cwbl roedden nhw'n ei wneud oedd gofalu am eu defaid mewn cae, ac ar amrantiad ymddangosodd llond awyr o angylion. Mae'n debyg y bydden nhw wedi clywed am angylion, ond byddai gweld un wedi bod yn frawychus ac anhygoel. Dychmyga gannoedd o angylion yn canu mawl â'i gilydd gyda chymaint o sŵn, mae'n rhaid ei fod wedi bod yn fyddarol a godidog. Sôn am foment anhygoel!

Mae'n siŵr fod angylion yn haeddu mawl eu hunain. Mae nhw mor wahanol i'r hyn welwn ar y ddaear, yn adlewyrchu golau'r nefoedd, ac yn hawlio sylw a pharch. Ond nid nhw yw ffocws addoliad. Er mor ryfeddol oedden nhw, roedd yr angylion wedi ffocysu'n gyfan gwbwl ar glodfori Duw am yr hyn yw a beth fyddai'n ei ddod i'r ddaear drwy Iesu. Roedd angylion yn rhyfeddol yng ngolwg y ddynoliaeth ond roedden nhw wedi'u synnu gan Dduw. Mae'n rhaid fod y bugeiliaid yn gymaint mwy argyhoeddedig fod Duw yn hawlio'r addoliad a mawl pennaf.

Gweddi: Dad, fedra i ddim amgyffred mor syfrdanol wyt ti. Yn ystod tymor y Nadolig hwn cadwa fy ffocws ar gymaint wyt ti'n haeddu mawl. Rwyt ti'n haeddu fy mawl. Paid gadael i mi golli syndod dy fawredd. Cafodd popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear ei wneud i'th foli di. Does neb mor odidog â thi.

Lawlwytha'r llun ar gyfer heddiw yma.

Ysgrythur

Diwrnod 17Diwrnod 19

Am y Cynllun hwn

Advent: The Journey to Christmas

Y Nadolig yw'r stori fwyaf erioed i gael ei hadrodd: stori o ffyddlondeb perffaith Duw, pŵer, iachawdwriaeth a chariad bythol. Gad i ni gymryd taith dros y 25 diwrnod nesaf i ddarganfod cynllun dyrys Duw i achub y byd o bechod a'r addewidion gyflawnwyd yn ngenedigaeth ei Fab.

More

Hoffem ddiolch i Church of the Highlands am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://www.churchofthehighlands.com/