Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Blas ar y Beibl 2Sampl

Blas ar y Beibl 2

DYDD 12 O 28

Darlleniad: Mathew 14:15-21

Nos Da, Arglwydd!

Mae rhai Cristnogion yn meddwl bod treulio ychydig funudau mewn gweddi bob bore yn ddigon er mwyn iddyn nhw dyfu’n gryf yn eu bywyd Cristnogol. Ond bydd y rhai hynny sy’n wirioneddol awyddus i fod yn ddisgyblion effeithiol i’w Harglwydd yn rhoi amser o’r neilltu i fod gydag o gyda’r nos hefyd - fel y disgyblion cyntaf.

Sut allwn ni wneud y gorau o dreulio amser gyda Duw ar ddiwedd y dydd? Rho heibio o leiaf ddeg munud cyn mynd i dy wely i’w dreulio ar dy ben dy hun yn gweddïo ar Dduw. Edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd gydol y dydd, a chyflwyna’r cwbl i Dduw. Cofia gyfaddef yr adegau hynny pan fethaist wneud yr hyn oedd yn iawn yng ngolwg Duw. Wrth i ti gyffesu hynny i’r Arglwydd mewn ysbryd edifeiriol (dangos dy fod yn sori go iawn) bydd Duw yn ei gariad a’i ras yn maddau i ti.

Bydd lle i ti ddiolch a gorfoleddu hefyd wrth feddwl mor dda mae’r Arglwydd wedi bod tuag atat ti. Treulia amser yn ei glodfori am ei fod yn Achubwr mor fendigedig!

Efallai fod rhai pethau rwyt yn teimlo fod rhaid i ti eu cyflwyno i’r Arglwydd ar frys; er enghraifft ffrind agos sy’n sâl iawn yn yr ysbyty, neu rywun mewn angen arbennig. Gweddïa drostyn nhw wrth eu henwau gan ofyn i Dduw ddarparu ar gyfer eu hangen trwy gyfrwng ei nerth dwyfol ei Hun. Gofyn iddo hefyd a elli di wneud rhywbeth i helpu yn y sefyllfa.

Cyn mynd i gysgu dylet feddwl am Dduw a’i gariad a’i drugaredd tuag atat. Gorffwys ym mynwes Duw wrth feddwl am ei gariad a’i dangnefedd. Mae gorffwys ar fynwes lesu yn fwy llesol na’r gwely y byddi’n gorwedd arno i gysgu.

Mae yn syniad da wrth gwrs, i ti ddarllen darn byr o’r Beibl cyn mynd i gysgu. Meddwl am Dduw a’i gariad yw’r gorffwys gorau, a’r paratoad gorau ar gyfer yfory.

BDGI - addasiad Alun Tudur
Diwrnod 11Diwrnod 13

Am y Cynllun hwn

Blas ar y Beibl 2

Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.

More

Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.