Blas ar y Beibl 2Sampl
Darlleniad: Hebreaid 5:12-14 a Hebreaid 6:1-12
Symud ymlaen
“Ydych chi’n symud ymlaen i berffeithrwydd?” Dyma gwestiwn y byddai John Wesley yn ei ofyn yn aml i’w ddilynwyr. Wrth gwrs perffeithrwydd Cristnogol oedd y perffeithrwydd y soniai amdano. Heriai bobl ei ddydd i anelu at y nod uchaf o fod yn debyg i Grist ym mhob ffordd posibl.
Efallai fod sôn am ‘symud ymlaen i berffeithrwydd’ yn dychryn rhai, felly beth am i ni geisio deall ystyr y cymal yn iawn. Sut mae dod yn debycach i Iesu Grist bob dydd? Wel, mae’n syml iawn - trwy dderbyn mwy a mwy o Grist i’n bywydau bob dydd! Mae Crist yn cael meddiant Ilawn ar wahanol weddau i’n bywydau wrth i ni deithio yn ein blaenau drwy’r bywyd Cristnogol. I mi, gwnes i roi fy hun i Grist pan gefais dröedigaeth, ond wrth ddarllen ei Air o ddydd i ddydd, a mynd i’r eglwys, fe ddes i i sylweddoli fod rhannau o fy mywyd oeddwn i ddim eto wedi eu cyflwyno’n llwyr i feddiant Crist. Cyflwynais y rhain iddo o un i un. O bryd i’w gilydd roeddwn yn ystyfnig, ac yn trïo cadw rhannau o fy mywyd yn ôl i mi fy hun. Ond mae cariad Duw mor rasol ac amyneddgar. O hyd ac o hyd roedd yn gosod sialens o’m blaen, ac roedd rhaid i mi ei hwynebu.
Ydy’r Arglwydd yn dy atgoffa di o bryd i’w gilydd am ryw newid sydd ei angen? Y rheswm am hynny yw ei fod am i ti gyflwyno’r wedd yna ar dy fywyd iddo Ef. Wrth i ti gyflwyno pob cornel o dy fywyd i Grist, bydd Ef yn ei glanhau a’i pherffeithio â’i bresenoldeb. Paid â chloi Crist allan o unrhyw ran o’th fywyd heddiw. Oherwydd fo sydd piau’r cwbl ohonot.
BDGI - addasiad Alun Tudur

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Darlleniadau dyddiol i dy helpu i gael blas ar y Beibl. Mae'r rhain wedi eu paratoi gan Gobaith i Gymru a beibl.net gyda chefnogaeth SU Cymru. Mae Blas ar y Beibl 2 yn addasiad gan Alun Tudur o Bob Dydd Gyda Iesu. Defnyddir gyda chaniatâd y cyhoeddwyr.
More
Hoffem ddiolch i Arfon Jones, gig a beibl.net, am ddarparu’r cynllun hwn.