Iesu: Baner ein BuddugoliaethSampl

Buddugoliaeth dros Gywilydd
mae'r gelyn wrth ei fodd yn siarad. Mae Gair Duw yn dweud fod Satan yn prowlan o gwmpas fel ryw lew yn rhuo yn chwilio am rhywun i'w difa. Yn Datguddiad mae e'n cael ei gyfeirio ato fel ein cyhuddwr, ei fod yn ein cyhuddo, o flaen Duw, ddydd a nos. Mae Satan yn gyfrwys, ac mae'n gwybod mai un o'r ffyrdd gorau i ladd, dwyn, a dinistrio'r potensial gawsom gan Dduw, yw creu amheuaeth o gwmpas ein pechod, sy'n ein cadw mewn amheuaeth parhaol o fod yn annheilwng. Mae e eisiau i ni fyw mewn cywilydd.
I chi gael deall, mae euogrwydd am yr hyn dŷn ni wedi'i wneud, ond mae cywilydd am pwy yden ni. Mae llawer ohonom yn derbyn fod Duw yn maddau i ni am yr hyn dŷn ni wedi'i wneud ond dŷn ni dal i adael y gelyn ein cyhuddo a'n llethu gyda celwyddau am pwy yden ni o ran greddf. Mae'r celwyddau hyn yn ein parlysu oddi wrth cofleidio a gweithredu ar bwrpas Duw yn ein bywydau. Dŷn ni'n cael ein galw i ddefnyddio'r rhoddion a doniau mae Duw wedi'u rhoi i ni, i wneud gwahaniaeth yn y byd, ond os na fyddwn yn torri'n rhydd o gywilydd ac annheilyngdod, fyddwn i fyth yn gallu cyflawni'n llawn yr hyn fwriadodd Duw i ni ei wneud.
Pan gafodd ein pechod ei gyfnewid am ei gyfiawnder ar y groes, fe'n crewyd o'r newydd. Does dim cysylltiad rhwng pwy oedden ni i pwy yden ni nawr. Plant Duw ydyn ni, wedi ein maddau'n gyfan gwbl, wedi ein gorchuddio gan ras, wedi ein hawdurdodi i wneud gwaith da er gogoniant iddo. Dylai hyn, a dim mwy, ffurfio ein hunaniaeth. Celwydd yw llais cywilydd sy'n gwrth-ddweud y gwirionedd.
Drwy wythnos y Pasg, cofia beth mae Duw yn ddweud amdanat, ei blentyn, a chaethiwa unrhyw feddyliau sydd ddim yn uniaethu â'i Air. Daeth Iesu er mwyn i ni gael byw bywyd i'w lawnder. Tafla i ffwrdd gywilydd, a dos ar ôl dy bwrpas ddwyfol!
Lawrlwytha ddarlun heddiwyma.Am y Cynllun hwn

Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.
More
Cynlluniau Tebyg

I Surrender: Defosiynau Ysbrydoledig wedi'u sgwennu gan Garcharorion

Dod i Deyrnasu

Mae'r Beibl yn Fyw

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Cyfrinachau Eden

21 Dydd i Orlifo

Beibl I Blant

Beth yw Cariad go iawn?
