Gweithredoedd o EdifeirwchSampl
Wyt ti wedi bod ar goll erioed? Mae bod ar goll, heb wybod ble i fynd, yn un o'r teimladau mwyaf rhwystredig. Yn wir, mewn rhai amgylchiadau gall fod yn ddychrynllyd. Yn adn.25 mae Pedr yn ein cymharu ni, pan oedden ni'n pechu, â defaid wedi crwydro a mynd ar goll. Doedden ni ddim yn gwybod pa ffordd i droi, ond ar ôl troi cefn ar ein pechodau a derbyn maddeuant Duw rydyn ni yn ôl gyda'r praidd sy'n cael ei arwain gan Dduw, ein bugail. Beth sy'n achosi i ti grwydro? Falle dy fod ti'n gwneud dy orau i ddilyn llwybr Duw, ond fod rhyw bechod yn dy fywyd yn dy arwain ar gyfeiliorn i ddilyn llwybrau eraill. Cyffesa'r pechod yna i Dduw. Tro dy gefn arno heddiw a gofyn i Dduw dy helpu i'w drechu'n llwyr.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae edifarhau yn un o'r camau allweddol mae'n rhaid i ni ei gymryd i adnabod Crist fel Gwaredwr personol. Ni sy'n edifarhau a Duw sy'n maddau. Dyna ymateb ei gariad perffaith o tuag aton ni. Yn ystod y cynllun darllen 5-diwrnod yma byddi'n cael darlleniad dyddiol a myfyrdod defosiynol byr i'th helpu i ddeall yn well bwysigrwydd edifeirwch wrth ddilyn Crist.
More
We would like to thank LifeChurch.tv for providing this plan. For more information, please visit: www.lifechurch.tv