Mae'r Beibl yn FywSampl
Ni ellir rhwystro'r Beibl
Yn y 1500au doedd y Beibl ddim yn bodoli yn y rhan helaeth o ieithoedd. Dim ond pobl addysgedig a chyfoethog oedd yn gallu ei astudio mewn Hebraeg, Groeg, neu Lladin.
Ond roedd ysgolhaig o'r enw William Tyndale yn argyhoeddedig bod pawb â hawl i ddeall yr Ysgrythur. Felly dechreuodd ei gyfieithu i'w iaith ei hun: Saesneg.
Roedd nifer o awdurdodau yn gwrthwynebu'r syniad hyn a mwy gan Tyndale, felly ffodd o Loegr a smyglo ei Destamentau Newydd nôl i'w famwlad yn ddiweddarach. Am naw mlynedd fe wnaeth Tyndale osgoi cael ei arestio tra'n parhau i gyfieithu'r Beibl i'r Saesneg am y tro cyntaf. Ond, yn y diwedd cafodd ei ddal, ei gondemnio am heresi, a'i losgi wrth y stanc.
Sbardunodd penderfyniad Tyndale fudiad i gael y Beibl mewn iaith oedd yn gyfarwydd i bobl gyffredin. Bron i gan mlynedd yn ddiweddarach bu newid - cyhoeddwyd fersiwn King James yn Saesneg - fersiwn ddefnyddiodd lot o waith cychwynnol Tyndale.
Dros amser trawsnewidiwyd Lloegr gan y Beibl. Bu Diwygiadau a deffroadau, sefydlwyd mudiadau cenhadol, a ffurfiwyd sefydliadau oedd yn ymroddedig i gyfieithu'r Beibl. Adfywiwyd cenedl gan yr Ysgrythur - ond dechreuodd diwygiad pan gredodd cyfieithwyr Saesneg cynnar fod gan bawb hawl i ddeall Gair Duw... felly fe wnaethon nhw rywbeth am hynny.
Sut mae dewrder cyfieithwyr cynnar y Beibl yn dy ysbrydoli di?
Y munud hwn, myfyria ar yr hyn aeth Tyndale drwyddo, ac yna, gofynna i Dduw egluro pa gamu dylet eu cymryd i rannu'r Ysgrythur gyda'r rhai sydd o'th gwmpas. Falle, anfon adnod i rhywun fyddai hynny, neu gyfrannu at broject cyfieithu'r Beibl.
Beth bynnag yw e, ystyria sut olwg fyddai ar dy fywyd pe nad oedd Gair Duw ar gael yn dy iaith, ac yna bydd yn gatalydd am newid ym mywyd rhywun arall.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Ers cyn dechrau amser mae Gair Duw wedi adnewyddu calonnau a meddyliau - a dydy Duw heb orffen eto. Yn y cynllun sbesial saith diwrnod hwn gad i ni ddathlu pŵer trawsnewidiol i fywyd yr Ysgrythur drwy gymryd golwg agosach ar sut mae Duw'n defnyddio'r Beibl i effeithio ar hanes a newid bywydau ledled y byd.
More