Logo YouVersion
Eicon Chwilio

21 Dydd i OrlifoSampl

21 Days to Overflow

DYDD 4 O 21

Hunanoldeb

Heddiw, dŷn ni wedi ffocysu ar gael gwared ar rywbeth sydd wedi dod yn fwy cyffredin yn y byd y dyddiau hyn: hunanoldeb.

Ni all yr hyn a wnawn, nid yn unig yn yr eglwys, ond y tu allan i'r eglwys gael ei wneud ag ysbryd o uchelgais na dirnadaeth hunanol. P'un ai os ydym yn y gwaith, yn yr ysgol, gyda ffrindiau, gyda theulu, yn y farchnad, neu'n gwasanaethu yn ein man arwain, mae ein cymhellion yn bwysig.

Ddylen ni ddim bod yn gofyn y cwestiwn, “Beth sydd orau i mi?” i ni ein hunain. Yn hytrach, dylen ni fod yn gofyn i ni’n hunain, “Beth sydd orau i Deyrnas Dduw?” Ein huchelgais ddylai fod i ddod o hyd i'r ffordd orau i wneud ewyllys perffaith Duw.

Yn Philipiaid 2:3-4 mae ‘dweud i beidio bod am y gorau i fod yn bwysig, nac yn llawn ohonon ni’n hunain. Mae dim yn golygu dim. Pan dŷn ni’n gwneud y cwbl er lles Teyrnas Dduw yn lle ni ein hunain, pa mor wahanol fyddai ein bywydau ni?

Mae 1 Corinthiaid 10:24 yn adlewyrchu'r egwyddor hon, gan ddweud na ddylai neb geisio eu lles eu hunain, ond lles eraill. Pa mor wahanol fyddai’r eglwys yn edrych petai pawb yn gweithredu gyda lles eraill mewn golwg? Pa mor wahanol fyddai'r byd yn edrych pe na bai neb yn gweithredu o uchelgais hunanol ond er lles eraill?

Y tro nesaf y byddwn yn ceisio gwneud unrhyw beth dros eraill, neu dros yr Arglwydd, gadewch inni ofyn iddo ddatgelu a yw ein cymhelliant yn hunanol.

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

21 Days to Overflow

Yn y cynllun YouVersion, 21 dydd i Orlifo bydd Jeremiah Hosford yn mynd â’r darllenwyr ar daith 3 wythnos o wagio eu hunain, cael eu llenwi â’r Ysbryd Glân, a byw bywyd yn gorlifo o’r Ysbryd. Mae’n bryd rhoi’r gorau i fyw bywyd normal a dechrau byw bywyd sy’n gorlifo!

More

Hoffem ddiolch i Four Rivers Media am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i https://www.theartofleadership.com/