Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu EraillSampl

Gwasanaethu
Ffocws
Un o'r ffyrdd mwyaf i garu Duw a'n cymydog yw trwy weithredoedd o wasanaethu. Cyn i ti fynd ymlaen, cymera ychydig funudau i ystyried a myfyrio ar sut y gallet ti gael dy alw â’th greu yn unigryw i wasanaethu'r rhai o’th gwmpas.
Gwrando
St. Teresa o Avila - Nid oes gan Crist Gorff
“Nid oes gan Grist gorff ond dy gorff di,
Dim dwylo, na thraed ar y ddaear ond dy rai di,
Dy lygaid di yw'r llygaid y mae'n edrych drwyddyn nhw â
Thosturi ar y byd hwn,
Ti biau’r traed y mae'n cerdded â nhw i wneud daioni,
Dy ddwylo di yw'r dwylo, y mae'n bendithio'r holl fyd â nhw.”
Mathew 25:35-36;40 (beibl.net)
“Dewch, oherwydd chi roddodd fwyd i mi pan oeddwn i’n llwgu; chi roddodd ddiod i mi pan oedd syched arna i; chi roddodd groeso i mi pan doeddwn i ddim yn nabod neb; chi roddodd ddillad i mi pan oeddwn i’n noeth; chi ofalodd amdana i pan oeddwn i’n sâl; chi ddaeth i ymweld â mi pan oeddwn i yn y carchar.’...
A bydd y Brenin yn ateb, ‘Credwch chi fi, pan wnaethoch chi helpu’r person lleiaf pwysig sy’n perthyn i mi, gwnaethoch chi fy helpu i.” < /p>
Cam 3: Cymhwyso (25-50 gair)
Gan barhau â'r trosiad o fod yn gorff Crist, Defnyddia’r rhannau hyn o'r corff a restrir isod i ystyried sut y gallet wasanaethu eraill:
Dwylo:
Traed:
Llygaid:
Clustiau:
Ceg:
Calon:
Meddwl
Cam 4: Ymateb (25-50 gair)
Wrth i ti orffen y defosiwn hwn, ystyria dy bersbectif unigryw, dy alwedigaeth, dy sgiliau, dy bersonoliaeth, dy brofiadau, a sut y gallwn wasanaethu Duw ac eraill.
Gofynna i Dduw agor dy lygaid i gyfleoedd newydd, clustiau i'r bobl o’th gwmpas, â’th galon a’th feddwl i anghenion dy gymuned.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Edrycha ar dy bwrpas fel un o ddilynwyr Iesu: i garu Duw a charu eraill. Dros saith diwrnod, byddwn yn dadbacio themâu addoliad personol, trawsnewid, tosturi, gwasanaeth a chyfiawnder. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda gweddi i’th helpu i ganolbwyntio ar thema’r dydd, darn neu ddau o’r ysgrythur, meddwl o safbwynt diwinyddol, a ffyrdd o gymhwyso’r darlleniad ac ymateb iddo. =.
More
Cynlluniau Tebyg

Mae'r Beibl yn Fyw

Dod i Deyrnasu

21 Dydd i Orlifo

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

I Surrender: Defosiynau Ysbrydoledig wedi'u sgwennu gan Garcharorion

Beibl I Blant

Alla i Wir Oresgyn Pechod a Themtasiwn?

Beth yw Cariad go iawn?
