Canlyniadau Chwilio
Ioan 3:16 (BCND)
Do , carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.
Rhufeiniaid 5:8 (BCND)
Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
1 Corinthiaid 13:4 (BCND)
Y mae cariad yn amyneddgar; y mae cariad yn gymwynasgar; nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw'n ymffrostio, nid yw'n ymchwyddo.
1 Corinthiaid 13:5 (BCND)
Nid yw'n gwneud dim sy'n anweddus, nid yw'n ceisio ei ddibenion ei hun, nid yw'n gwylltio, nid yw'n cadw cyfrif o gam;
1 Corinthiaid 13:6 (BCND)
nid yw'n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae'n cydlawenhau â'r gwirionedd.
1 Corinthiaid 13:7 (BCND)
Y mae'n goddef i'r eithaf, yn credu i'r eithaf, yn gobeithio i'r eithaf, yn dal ati i'r eithaf.
1 Ioan 4:7 (BCND)
Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.
1 Ioan 4:8 (BCND)
Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.
1 Ioan 4:9 (BCND)
Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom : bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef.
1 Ioan 4:10 (BCND)
Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.
Rhufeiniaid 8:38 (BCND)
Yr wyf yn gwbl sicr na all nac angau nac einioes, nac angylion na thywysogaethau, na'r presennol na'r dyfodol,
Rhufeiniaid 8:39 (BCND)
na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.
1 Corinthiaid 13:13 (BCND)
Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros. A'r mwyaf o'r rhain yw cariad.
1 Ioan 4:18 (BCND)
Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.
Rhufeiniaid 13:10 (BCND)
Ni all cariad wneud cam â chymydog. Y mae cariad, felly, yn gyflawniad o holl ofynion y Gyfraith.
Rhufeiniaid 12:9 (BCND)
Bydded eich cariad yn ddiragrith. Casewch ddrygioni. Glynwch wrth ddaioni.
1 Corinthiaid 16:14 (BCND)
Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad.
1 Pedr 4:8 (BCND)
O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.
Galatiaid 5:22 (BCND)
Ond ffrwyth yr Ysbryd yw cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth.
Caniad Solomon 7:10 (BCND)
Yr wyf fi'n eiddo i'm cariad, ac yntau'n fy chwennych.
2 Ioan 1:6 (BCND)
A hyn yw cariad: ein bod yn rhodio yn ôl ei orchmynion ef. A'r gorchymyn hwn, fel y clywsoch o'r dechreuad, yw eich bod i rodio mewn cariad.
Mathew 24:12 (BCND)
Ac am fod drygioni yn amlhau bydd cariad llawer iawn yn oeri.
Colosiaid 1:8 (BCND)
ac ef sydd wedi'n hysbysu ni am eich cariad yn yr Ysbryd.
Effesiaid 4:2 (BCND)
Byddwch yn ostyngedig ac addfwyn ym mhob peth, ac yn amyneddgar, gan oddef eich gilydd mewn cariad.
1 Pedr 5:14 (BCND)
Cyfarchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll sydd yng Nghrist!