Canlyniadau Chwilio
Philipiaid 4:13 (BCND)
Y mae gennyf gryfder at bob gofyn trwy yr hwn sydd yn fy nerthu i.
2 Corinthiaid 12:9 (BCND)
Ond dywedodd wrthyf, “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i'w anterth.” Felly, yn llawen iawn fe ymffrostiaf fwyfwy yn fy ngwendidau, er mwyn i nerth Crist orffwys arnaf.
2 Corinthiaid 12:10 (BCND)
Am hynny, yr wyf yn ymhyfrydu, er mwyn Crist, mewn gwendid, sarhad, gofid, erledigaeth, a chyfyngder. Oherwydd pan wyf wan, yna rwyf gryf.
Eseia 40:29 (BCND)
Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym.
Eseia 40:30 (BCND)
Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa;
Eseia 40:31 (BCND)
ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
Y Salmau 18:1 (BCND)
Caraf di, O ARGLWYDD , fy nghryfder.
Effesiaid 6:10 (BCND)
Yn olaf, ymgryfhewch yn yr Arglwydd ac yn nerth ei allu ef.
Marc 12:30 (BCND)
a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’
Eseia 41:10 (BCND)
Paid ag ofni, yr wyf fi gyda thi; paid â dychryn, myfi yw dy Dduw. Cryfhaf di a'th nerthu, cynhaliaf di â llaw dde orchfygol.
Deuteronomium 31:6 (BCND)
Bydd yn gryf a dewr; paid â'u hofni na dychryn rhagddynt, oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat.
Y Salmau 73:26 (BCND)
Er i'm calon a'm cnawd ballu, eto y mae Duw yn gryfder i'm calon ac yn rhan imi am byth.
1 Cronicl 16:11 (BCND)
Ceisiwch yr ARGLWYDD a'i nerth, ceisiwch ei wyneb bob amser.
2 Samuel 22:33 (BCND)
Duw yw fy nghaer gadarn, sy'n gwneud fy ffordd yn ddifeius.
Y Salmau 28:7 (BCND)
Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm tarian; ynddo yr ymddiried fy nghalon; yn sicr caf gymorth, a llawenycha fy nghalon, a rhof foliant iddo ar gân.
Nehemeia 8:10 (BCND)
Yna fe ddywedodd wrthynt, “Ewch, bwytewch ddanteithion ac yfwch win melys a rhannwch â'r sawl sydd heb ddim, oherwydd mae heddiw yn ddydd sanctaidd i'n Harglwydd; felly, peidiwch â galaru, oherwydd llawenhau yn yr ARGLWYDD yw eich nerth.”
Job 41:22 (BCND)
Y mae cryfder yn ei wddf, ac arswyd yn rhedeg o'i flaen.
Job 30:2 (BCND)
Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi, gan fod eu hegni wedi diflannu?
Job 9:19 (BCND)
“Os cryfder a geisir, wele ef yn gryf; os barn, pwy a'i geilw i drefn ?
Eseciel 32:30 (BCND)
Y mae holl dywysogion y gogledd a'r holl Sidoniaid yno; aethant i lawr mewn gwarth gyda'r lladdedigion, er gwaetha'r braw a achosodd eu cryfder; y maent yn gorwedd yn ddienwaededig gyda'r rhai a laddwyd â'r cleddyf, ac yn dwyn eu gwarth gyda'r rhai sy'n disgyn i'r pwll.
Y Salmau 73:4 (BCND)
Oherwydd nid oes ganddynt hwy ofidiau; y mae eu cyrff yn iach a graenus.
Eseciel 30:15 (BCND)
Tywalltaf fy llid ar Sin, cadarnle'r Aifft, a thorri ymaith finteioedd Thebes.
Genesis 49:3 (BCND)
“Reuben, ti yw fy nghyntafanedig, fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth, yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,
Eseia 23:4 (BCND)
Cywilydd arnat, Sidon, canys llefarodd y môr, caer y môr, a dweud, “Nid wyf mewn gwewyr nac yn esgor, nac yn magu llanciau nac yn meithrin morynion.”
Eseia 43:17 (BCND)
a ddug allan gerbyd a march, byddin a dewrion, a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi, yn darfod ac yn diffodd fel llin: