Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Canlyniadau Chwilio

Diarhebion 17:9 (BCND)

Y mae'r un sy'n cuddio tramgwydd yn ceisio cyfeillgarwch, ond y mae'r sawl sy'n ailadrodd stori yn gwahanu cyfeillion.

Iago 4:4 (BCND)

Chwi rai anffyddlon, oni wyddoch fod cyfeillgarwch â'r byd yn elyniaeth tuag at Dduw? Y mae unrhyw un sy'n mynnu bod yn gyfaill i'r byd yn ei wneud ei hun yn elyn i Dduw.

Luc 11:8 (BCND)

rwy'n dweud wrthych, hyd yn oed os gwrthyd ef godi a rhoi rhywbeth iddo o achos eu cyfeillgarwch, eto oherwydd ei daerni digywilydd fe fydd yn codi ac yn rhoi iddo gymaint ag sydd arno ei eisiau.

Diarhebion 17:8 (BCND)

Carreg hud yw llwgrwobr i'r sawl a'i defnyddia; fe lwydda ple bynnag y try.

Diarhebion 17:10 (BCND)

Y mae cerydd yn peri mwy o loes i'r deallus na chan cernod i ynfytyn.

Iago 4:5 (BCND)

Neu a ydych yn tybio nad oes ystyr i'r Ysgrythur sy'n dweud, “Y mae Duw'n dyheu hyd at eiddigedd am yr ysbryd a osododd i drigo ynom?”

Iago 4:3 (BCND)

A phan fyddwch yn gofyn, nid ydych yn derbyn, a hynny am eich bod yn gofyn ar gam, â'ch bryd ar wario yr hyn a gewch ar eich pleserau.

Luc 11:9 (BCND)

Ac yr wyf fi'n dweud wrthych: gofynnwch, ac fe roddir i chwi; ceisiwch, ac fe gewch; curwch, ac fe agorir i chwi.

Luc 11:7 (BCND)

a phe bai yntau yn ateb o'r tu mewn, ‘Paid â'm blino; y mae'r drws erbyn hyn wedi ei folltio, a'm plant gyda mi yn y gwely; ni allaf godi i roi dim iti’,