Canlyniadau Chwilio
Effesiaid 4:26 (BCND)
Byddwch ddig, ond peidiwch â phechu; peidiwch â gadael i'r haul fachlud ar eich digofaint,
Iago 1:19 (BCND)
Ystyriwch, fy nghyfeillion annwyl. Rhaid i bob un fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio,
Iago 1:20 (BCND)
oherwydd nid yw dicter dynol yn hyrwyddo cyfiawnder Duw.
Effesiaid 4:31 (BCND)
Bwriwch ymaith oddi wrthych bob chwerwder, llid, digofaint, twrw, a sen, ynghyd â phob drwgdeimlad.
Diarhebion 19:11 (BCND)
Y mae deall yn gwneud rhywun yn amyneddgar, a'i anrhydedd yw maddau tramgwydd.
Mathew 5:22 (BCND)
Ond rwyf fi'n dweud wrthych y bydd pob un sy'n ddig wrth ei frawd yn atebol i farn. Pwy bynnag sy'n sarhau ei frawd , bydd yn atebol i'r llys, a phwy bynnag sy'n dweud wrtho, ‘Y ffŵl’, bydd yn ateb am hynny yn nhân uffern.
Y Salmau 37:8 (BCND)
Paid â digio; rho'r gorau i lid; paid â bod yn ddig, ni ddaw ond drwg o hynny.
Diarhebion 14:29 (BCND)
Y mae digon o ddeall gan yr amyneddgar, ond dyrchafu ffolineb a wna'r byr ei dymer.
Diarhebion 15:1 (BCND)
Y mae ateb llednais yn dofi dig, ond gair garw yn cynnau llid.
Y Pregethwr 7:9 (BCND)
Paid â rhuthro i ddangos dig, oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.
Diarhebion 29:11 (BCND)
Y mae'r ffŵl yn arllwys ei holl ddig, ond y mae'r doeth yn ei gadw dan reolaeth.
Diarhebion 16:32 (BCND)
Gwell bod yn amyneddgar nag yn rhyfelwr, a rheoli tymer na chipio dinas.
Diarhebion 15:18 (BCND)
Y mae un drwg ei dymer yn codi cynnen, ond y mae'r amyneddgar yn tawelu cweryl.
Rhufeiniaid 12:19 (BCND)
Peidiwch â mynnu dial, gyfeillion annwyl, ond rhowch ei gyfle i'r digofaint dwyfol, fel y mae'n ysgrifenedig: “ ‘Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl,’ medd yr Arglwydd.”
Colosiaid 3:8 (BCND)
Ond yn awr, rhowch heibio'r holl bethau hyn: digofaint, llid, drwgdeimlad, cabledd a bryntni o'ch genau.
Luc 4:28 (BCND)
Wrth glywed hyn llanwyd pawb yn y synagog â dicter;
Y Salmau 106:40 (BCND)
Yna cythruddodd dicter yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl, a ffieiddiodd ei etifeddiaeth;
Job 5:2 (BCND)
Y mae dicter yn lladd yr ynfyd, a chenfigen yn dwyn angau i'r ffôl.
Eseciel 22:24 (BCND)
“Fab dyn, dywed wrthi, ‘Gwlad heb gael cawodydd na glaw fuost yn nydd dicter.’
Actau 19:28 (BCND)
Pan glywsant hyn, llanwyd hwy â dicter, a dechreusant weiddi, “Mawr yw Artemis yr Effesiaid.”
Habacuc 3:12 (BCND)
Mewn llid yr wyt yn camu dros y ddaear, ac mewn dicter yn mathru cenhedloedd.
Diarhebion 29:8 (BCND)
Y mae'r gwatwarwyr yn creu cyffro mewn dinas, ond y mae'r doethion yn tawelu dicter.
Diarhebion 11:4 (BCND)
Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.
Y Pregethwr 5:17 (BCND)
Y mae wedi treulio'i ddyddiau mewn tywyllwch a gofid , mewn dicter mawr a gwaeledd a llid.
Diarhebion 27:4 (BCND)
Y mae dicter yn greulon, a digofaint fel llifeiriant, ond pwy a all sefyll o flaen cenfigen?