Canlyniadau Chwilio
Genesis 2:24 (BCND)
Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam, ac yn glynu wrth ei wraig, a byddant yn un cnawd.
Effesiaid 5:33 (BCND)
Ond yr ydych chwithau bob un i garu ei wraig fel ef ei hun; ac y mae'r wraig hithau i barchu ei gŵr.
Effesiaid 5:25 (BCND)
Chwi wŷr, carwch eich gwragedd, fel y carodd Crist yntau'r eglwys a'i roi ei hun drosti,
Effesiaid 5:22 (BCND)
Chwi wragedd, byddwch ddarostyngedig i'ch gwŷr fel i'r Arglwydd;
Effesiaid 5:23 (BCND)
oherwydd y gŵr yw pen y wraig, fel y mae Crist hefyd yn ben yr eglwys; ac ef yw Gwaredwr y corff.
Effesiaid 5:28 (BCND)
Yn yr un modd, dylai'r gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain. Y mae'r gŵr sy'n caru ei wraig yn ei garu ei hun.
Diarhebion 18:22 (BCND)
Y sawl sy'n cael gwraig sy'n cael daioni ac yn ennill ffafr gan yr ARGLWYDD .
Mathew 19:4 (BCND)
Atebodd yntau gan ofyn, “Onid ydych wedi darllen mai yn wryw a benyw y gwnaeth y Creawdwr hwy o'r dechreuad?”
Mathew 19:5 (BCND)
A dywedodd, “Dyna pam y bydd dyn yn gadael ei dad a'i fam ac yn glynu wrth ei wraig, a bydd y ddau yn un cnawd.
Mathew 19:6 (BCND)
Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd. Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai neb ei wahanu.”
Marc 10:8 (BCND)
a bydd y ddau yn un cnawd. Gan hynny nid dau mohonynt mwyach, ond un cnawd.
Marc 10:9 (BCND)
Felly, yr hyn a gysylltodd Duw, peidied neb ei wahanu.”
Barnwyr 14:20 (BCND)
Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.
Ioan 2:1 (BCND)
Y trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea, ac yr oedd mam Iesu yno.
Luc 5:34 (BCND)
Meddai Iesu wrthynt, “A allwch wneud i westeion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy?
Datguddiad 19:7 (BCND)
Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo'r gogoniant, oherwydd daeth dydd priodas yr Oen, ac ymbaratôdd ei briodferch ef.
Hebreaid 13:4 (BCND)
Bydded priodas mewn parch gan bawb, a'r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr.
Deuteronomium 7:3 (BCND)
Paid â gwneud cytundeb priodas â hwy trwy roi dy ferched i'w meibion a chymryd eu merched yn wragedd i'th feibion,
Marc 2:19 (BCND)
Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas ymprydio tra bydd y priodfab gyda hwy? Cyhyd ag y mae ganddynt y priodfab gyda hwy, ni allant ymprydio.
Mathew 9:15 (BCND)
Dywedodd Iesu wrthynt, “A all gwesteion priodas alaru cyhyd ag y mae'r priodfab gyda hwy? Ond fe ddaw dyddiau pan ddygir y priodfab oddi wrthynt, ac yna yr ymprydiant.
Barnwyr 15:6 (BCND)
Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, “Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas.”
Barnwyr 15:2 (BCND)
a dywedodd wrtho, “Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle.”
1 Brenhinoedd 11:2 (BCND)
y cenhedloedd y dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr Israeliaid amdanynt, “Peidiwch â'u priodi, a pheidiwch â rhoi mewn priodas iddynt; byddant yn sicr o'ch hudo i ddilyn eu duwiau.” Ond dal i'w caru a wnâi Solomon.
Barnwyr 12:9 (BCND)
Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a deg ar hugain o ferched. Rhoddodd ei ferched ei hun mewn priodas i rai o'r tu allan, a chyrchodd ddeg ar hugain o ferched o'r tu allan yn wragedd i'w feibion. Bu'n farnwr ar Israel am saith mlynedd.
Mathew 22:12 (BCND)
Meddai wrtho, ‘Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?’ A thrawyd y dyn yn fud.